bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Judges 14
Judges 14
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 13
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 15 →
1
Dyma Samson yn mynd i lawr i Timna. Yno roedd merch ifanc wedi dal ei lygad, un o ferched y Philistiaid.
2
Pan aeth yn ôl adre dyma fe'n dweud wrth ei dad a'i fam, “Dw i wedi gweld merch ifanc yn Timna — un o ferched y Philistiaid. Ewch i'w nôl hi i fod yn wraig i mi.”
3
Ond dyma ei rieni'n ateb, “Mae'n rhaid bod yna ferch ifanc rywle — un o dy berthnasau; un o dy bobl dy hun. Mae'r Philistiaid yn baganiaid. Pam ddylet ti fynd atyn nhw i gael gwraig?” “Ewch i'w nôl hi. Hi dw i eisiau. Mae hi'n bishyn.”
4
(Doedd ei dad a'i fam ddim yn sylweddoli mai'r ARGLWYDD oedd tu ôl i hyn i gyd, a'i fod yn creu cyfle i achosi helynt i'r Philistiaid. Y Philistiaid oedd yn rheoli Israel ar y pryd).
5
Dyma Samson yn mynd i lawr i Timna gyda'i rieni. Pan oedd wrth ymyl gwinllannoedd Timna dyma lew ifanc yn rhuthro ato.
6
A dyma Ysbryd yr ARGLWYDD yn dod arno'n rymus a dyma fe'n rhwygo'r llew a'i ladd gyda dim ond nerth braich, fel petai'n fyn gafr bach ifanc. (Ond wnaeth e ddim dweud wrth ei rieni beth roedd wedi ei wneud).
7
Yna aeth Samson yn ei flaen i Timna a siarad â'r ferch ifanc. Roedd e wir yn ei ffansïo hi.
8
Beth amser ar ôl hynny aeth Samson i Timna i'w phriodi hi. Ar ei ffordd aeth i weld beth oedd ar ôl o'r llew oedd wedi ymosod arno. Cafodd fod haid o wenyn yn byw yn sgerbwd yr anifail a bod mêl ynddo.
9
Dyma fe'n crafu peth o'r mêl gyda'i ddwylo a'i fwyta wrth gerdded. Aeth yn ôl at ei rieni a rhoi peth o'r mêl iddyn nhw i'w fwyta. (Ond wnaeth e ddim dweud wrthyn nhw ei fod wedi crafu'r mêl allan o sgerbwd y llew).
10
Ar ôl hyn dyma ei dad yn mynd gydag e i Timna i weld y ferch. A dyma Samson yn trefnu parti, am mai dyna oedd dynion ifanc oedd am briodi yn arfer ei wneud bryd hynny.
11
Pan welodd y Philistiaid Samson dyma nhw'n rhoi tri deg o ffrindiau i gadw cwmni iddo yn y parti.
12
A dyma Samson yn dweud wrthyn nhw, “Gadewch i mi osod pos i chi. Os rhowch chi'r ateb i mi cyn diwedd y parti mewn wythnos, gwna i roi mantell newydd, a set o ddillad newydd i'r tri deg ohonoch chi.
13
Ond os allwch chi ddim datrys y pos, bydd rhaid i bob un ohonoch chi roi mantell a set o ddillad newydd i mi.” Felly dyma nhw'n dweud wrtho, “Iawn, gad i ni glywed beth ydy dy bos di.”
14
A dyma ddwedodd e: “Daeth bwyd o'r bwytäwr; rhywbeth melys o'r un cryf.” Aeth tri diwrnod heibio a doedden nhw ddim yn gallu meddwl am yr ateb.
15
Y diwrnod wedyn dyma nhw'n mynd at wraig Samson a'i bygwth: “Tricia dy ŵr i ddweud beth ydy'r ateb i'r pos, neu byddwn ni'n dy losgi di a teulu dy dad. Wnest ti'n gwahodd ni yma i'n gwneud ni'n fethdalwyr?”
16
Felly dyma wraig Samson yn mynd ato a dechrau crïo ar ei ysgwydd. “Ti'n fy nghasáu i. Dwyt ti ddim yn fy ngharu i. Ti wedi rhoi pos i rai o'r bechgyn ond dwyt ti ddim wedi dweud wrtho i beth ydy'r ateb.” “Ond dw i ddim hyd yn oed wedi dweud wrth dad a mam. Wyt ti wir yn disgwyl i mi ddweud wrthot ti?”
17
Buodd hi'n crïo ar ei ysgwydd nes oedd y parti bron ar ben. Yna ar y seithfed diwrnod dyma Samson yn dweud yr ateb wrthi am ei bod hi wedi swnian gymaint. A dyma hi'n mynd i ddweud wrth y dynion ifanc.
18
Cyn iddi fachlud y noson honno dyma ddynion y dref yn mynd at Samson a dweud, “Beth sy'n fwy melys na mêl? A beth sy'n gryfach na llew?” A dyma Samson yn dweud, “Fyddech chi ddim wedi datrys y pos heb gymryd mantais o'm gwraig i!”
19
A dyma Ysbryd yr ARGLWYDD yn dod arno'n rymus. Aeth i Ashcelon a lladd tri deg o ddynion. Cymerodd eu dillad a'u rhoi i'r dynion oedd wedi ateb y pos. Roedd wedi gwylltio'n lân ac aeth adre at ei rieni.
20
Dyma'i wraig yn cael ei rhoi i'r un oedd wedi bod yn was priodas iddo.
← Chapter 13
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 15 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21