bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Judges 5
Judges 5
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 6 →
1
Y diwrnod hwnnw dyma Debora a Barac yn canu cân i ddathlu'r fuddugoliaeth:
2
Molwch yr ARGLWYDD! Pan mae arweinwyr Israel yn arwain, pan mae dynion yn gwirfoddoli'n frwd.
3
Clywch, frenhinoedd! Gwrandwch, arweinwyr! Dw i'n canu i'r ARGLWYDD! ie, canu mawl i'r ARGLWYDD, Duw Israel.
4
O ARGLWYDD, pan adewaist Seir, a chroesi gwastatir Edom, dyma'r ddaear yn crynu, a chymylau'r awyr yn tywallt y glaw.
5
Crynodd y mynyddoedd o flaen yr ARGLWYDD, Duw Sinai; o flaen yr ARGLWYDD, Duw Israel.
6
Yn nyddiau Shamgar, mab Anat, ac eto yn nyddiau Jael, roedd pobl yn osgoi'r priffyrdd ac yn teithio ar ffyrdd troellog cefn gwlad.
7
Roedd rhyfelwyr yn brin yn Israel, nes i ti, Debora, godi, fel mam gan amddiffyn Israel.
8
Roedd Israel yn dilyn duwiau newydd, a daeth gelynion i ymosod ar eu giatiau. Doedd dim tarian na gwaywffon i'w gael gan bedwar deg o unedau milwrol Israel.
9
Ond molwch yr ARGLWYDD! Diolch am arweinwyr Israel, a'r dynion wnaeth wirfoddoli i ymladd.
10
Gwrandwch bawb! — chi sy'n marchogaeth asennod gwynion, yn eistedd yn gyfforddus ar garthenni cyfrwy, a chi sy'n gorfod cerdded ar y ffordd.
11
Gwrandwch arnyn nhw'n canu wrth y ffynhonnau! — yn canu am y cwbl wnaeth yr ARGLWYDD, a'r cwbl wnaeth rhyfelwyr Israel. Aeth byddin yr ARGLWYDD at giatiau'r ddinas!
12
Deffra! deffra! Debora. Deffra! deffra! cana gân! Ar dy draed, Barac! Cymer garcharorion rhyfel, fab Abinoam!
13
A dyma'r dynion oedd ar gael yn dod i lawr at eu harweinwyr. Daeth pobl yr ARGLWYDD i ymuno gyda mi fel rhyfelwyr.
14
Daeth rhai o Effraim (lle bu'r Amaleciaid yn byw), a milwyr Benjamin yn eu dilyn. Daeth capteiniaid i lawr o Machir, ac uchel-swyddogion o Sabulon.
15
Roedd arweinwyr Issachar gyda Debora, ac yn ufudd i orchymyn Barac, yn rhuthro ar ei ôl i'r dyffryn. Ond roedd pobl llwyth Reuben yn methu penderfynu beth i'w wneud.
16
Pam wnaethoch chi aros wrth y corlannau? A'i i wrando ar y bugeiliaid yn canu eu pibau i'r defaid? Oedden, roedd pobl llwyth Reuben yn methu penderfynu beth i'w wneud.
17
A dyma pobl Gilead hefyd yn aros yr ochr draw i'r Iorddonen Ac yna llwyth Dan — pam wnaethon nhw symud i weithio yn y dociau? Ac Asher, oedd yn byw ar yr arfordir — arhosodd yntau ger yr harbwr.
18
Roedd dynion Sabulon a Nafftali yn mentro'u bywydau ar faes y gâd.
19
Daeth brenhinoedd Canaan i ymladd yn ein herbyn, yn Taanach wrth nentydd Megido. Ond gymron nhw ddim arian oddi arnon ni.
20
Daeth sêr yr awyr i ymuno yn y frwydr, ac ymladd yn erbyn Sisera.
21
Dyma'r Afon Cison yn eu hysgubo i ffwrdd; roedd yr afon yn eu hwynebu — Afon Cison. O, saf ar yddfau'r rhai cryfion!
22
Roedd carnau eu ceffylau yn taro'r tir, a'u meirch yn carlamu i ffwrdd.
23
“Melltithiwch dref Meros!” meddai angel yr ARGLWYDD. “Melltithiwch bawb sy'n byw yno, am iddyn nhw beidio dod i ymladd brwydr yr ARGLWYDD — ymladd yn erbyn arwyr y gelyn.”
24
Mae Jael yn haeddu ei hanrhydeddu, sef gwraig Heber y Cenead. Mae hi'n haeddu anrhydedd mwy nac unrhyw wraig sy'n byw mewn pabell.
25
Gofynnodd Sisera am ddŵr, a rhoddodd iddo laeth; a powlen hardd o gaws colfran.
26
Gyda peg pabell yn ei llaw chwith a morthwyl yn y llaw dde, tarodd Sisera a malu ei benglog — bwrw'r peg drwy ochr ei ben!
27
Syrthiodd wrth ei thraed. Syrthio, a gorwedd yn llipa. Gorwedd ar lawr wrth ei thraed, yn llipa a difywyd — yn farw!
28
Wrth y ffenest roedd ei fam yn disgwyl; mam Sisera'n gweiddi yn ei gofid: “Pam mae e mor hir yn dod nôl? Pam nad oes sŵn carnau a cherbyd yn cyrraedd?”
29
Ac mae'r gwragedd doeth o'i chwmpas yn ateb, a hithau'n meddwl yr un fath,
30
“Mae'n siŵr eu bod nhw'n casglu trysorau, a merch neu ddwy i bob dyn ei threisio! Dillad lliwgar, hardd i Sisera; dillad gwych o ddefnydd wedi ei frodio, a sgarff neu ddau i'w gwisgo!”
31
O ARGLWYDD, boed i dy elynion i gyd ddarfod yr un fath! Ond boed i'r rhai sy'n dy garu di ddisgleirio'n llachar fel yr haul ganol dydd! Ar ôl hynny roedd heddwch yn y wlad am bedwar deg o flynyddoedd.
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 6 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21