bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Matthew 28
Matthew 28
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 27
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
1
Yna'n gynnar fore Sul, pan oedd y Saboth Iddewig drosodd, a hithau'n dechrau gwawrio, dyma Mair Magdalen a'r Fair arall yn mynd i edrych ar y bedd.
2
Yn sydyn roedd daeargryn mawr. Dyma angel yr Arglwydd yn dod i lawr o'r nefoedd a rholio'r garreg oddi ar geg y bedd ac eistedd arni.
3
Roedd wyneb yr angel yn disgleirio'n llachar fel mellten, a'i ddillad yn wyn fel eira.
4
Roedd y milwyr yn crynu gan ofn a dyma nhw'n llewygu.
5
Yna dyma'r angel yn dweud wrth y gwragedd, “Peidiwch bod ag ofn. Dw i'n gwybod eich bod chi'n edrych am Iesu, yr un gafodd ei groeshoelio.
6
Dydy e ddim yma; mae wedi dod yn ôl yn fyw! Dyna'n union beth ddwedodd fyddai'n digwydd. Dewch yma i weld lle bu'n gorwedd.
7
Yna ewch ar frys a dweud hyn wrth ei ddisgyblion: ‘Mae Iesu wedi dod yn ôl yn fyw, ac mae'n mynd i Galilea o'ch blaen chi. Cewch ei weld yno.’ Edrychwch, fi sydd wedi dweud wrthoch chi.”
8
Felly dyma'r gwragedd yn rhedeg ar frys o'r bedd i ddweud wrth y disgyblion. Roedden nhw wedi dychryn, ac eto roedden nhw'n teimlo rhyw wefr.
9
Yna'n sydyn dyma Iesu'n eu cyfarfod nhw. “Helo,” meddai. Dyma nhw'n rhedeg ato ac yn gafael yn ei draed a'i addoli.
10
“Peidiwch bod ag ofn,” meddai Iesu wrthyn nhw, “Ewch i ddweud wrth fy mrodyr i am fynd i Galilea; byddan nhw'n cael fy ngweld i yno.”
11
Tra roedd y gwragedd ar eu ffordd, dyma rhai o'r milwyr yn mynd i'r ddinas i ddweud wrth y prif offeiriaid am bopeth oedd wedi digwydd.
12
Yna aeth y prif offeiriaid i gyfarfod gyda'r arweinwyr eraill i drafod beth i'w wneud. Dyma nhw'n penderfynu talu swm mawr o arian i'r milwyr
13
i ddweud celwydd. “Dyma beth dych chi i'w ddweud: medden nhw, ‘Daeth ei ddisgyblion yn ystod y nos a dwyn y corff tra oedden ni'n cysgu.’
14
Peidiwch poeni os bydd y llywodraethwr yn clywed y stori, deliwn ni gyda hynny a gwneud yn siŵr na chewch chi'ch cosbi.”
15
Felly dyma'r milwyr yn cymryd yr arian ac yn gwneud beth ddwedwyd wrthyn nhw. Dyma'r stori mae'r Iddewon i gyd yn dal i'w defnyddio heddiw!
16
Dyma'r un deg un disgybl yn mynd i Galilea, i'r mynydd lle roedd Iesu wedi dweud wrthyn nhw am fynd.
17
Pan welon nhw Iesu, dyma nhw'n ei addoli — er bod gan rai ohonyn nhw amheuon.
18
Wedyn dyma Iesu'n mynd atyn nhw ac yn dweud, “Dw i wedi cael awdurdod llwyr i reoli popeth yn y nefoedd ac ar y ddaear.
19
Felly ewch i wneud pobl o bob gwlad yn ddisgyblion i mi, a'u bedyddio nhw fel arwydd eu bod nhw wedi dod i berthynas â'r Tad, a'r Mab a'r Ysbryd Glân.
20
A dysgwch nhw i wneud popeth dw i wedi ei ddweud wrthoch chi. Gallwch chi fod yn siŵr y bydda i gyda chi bob amser, nes bydd diwedd y byd wedi dod.”
← Chapter 27
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28