bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Matthew 8
Matthew 8
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 7
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 9 →
1
Roedd tyrfaoedd o bobl yn ei ddilyn pan ddaeth i lawr o ben y mynydd.
2
Yna dyma ddyn oedd yn dioddef o'r gwahanglwyf yn dod ato a mynd ar ei liniau o'i flaen. “Arglwydd,” meddai, “gelli di fy ngwneud i'n iach os wyt ti eisiau.”
3
Dyma Iesu'n estyn ei law a chyffwrdd y dyn. “Dyna dw i eisiau,” meddai, “bydd lân.” A'r eiliad honno cafodd y dyn ei wneud yn holliach!
4
A dyma Iesu'n dweud wrtho, “Gwna'n siŵr dy fod ti'n dweud wrth neb beth sydd wedi digwydd. Dos i ddangos dy hun i'r offeiriad, a chyflwyno'r offrwm ddwedodd Moses y dylet ti ei gyflwyno, yn dystiolaeth i'r bobl dy fod ti wedi cael dy iacháu.”
5
Wrth i Iesu fynd i mewn i Capernaum, daeth swyddog milwrol Rhufeinig ato yn pledio arno i'w helpu.
6
“Arglwydd,” meddai, “mae ngwas i gartre, yn gorwedd yn ei wely wedi ei barlysu. Mae'n dioddef yn ofnadwy.”
7
Atebodd Iesu, “Dof i'w iacháu.”
8
Ond meddai'r swyddog wrtho, “Arglwydd, dw i ddim yn deilwng i ti ddod i mewn i nhŷ i. Does ond rhaid i ti ddweud a bydd fy ngwas yn cael ei iacháu.
9
Mae swyddogion uwch fy mhen i yn rhoi gorchmynion i mi, ac mae gen innau filwyr o danaf fi. Dw i'n dweud ‘Dos’ wrth un, ac mae'n mynd; ‘Tyrd yma’ wrth un arall ac mae'n dod. Dw i'n dweud ‘Gwna hyn’ wrth fy ngwas, ac mae'n ei wneud.”
10
Roedd Iesu wedi ei syfrdanu pan glywodd beth ddwedodd y dyn. Meddai wrth y rhai oedd yn ei ddilyn, “Wir i chi, dw i ddim wedi gweld neb o bobl Israel sydd â ffydd fel yna!
11
Dw i'n dweud wrthoch chi, bydd llawer o bobl yn dod o bob rhan o'r byd ac yn eistedd i lawr i wledda gydag Abraham, Isaac a Jacob pan ddaw'r Un nefol i deyrnasu.
12
Ond bydd ‛dinasyddion y deyrnas‛ yn cael eu taflu allan i'r tywyllwch lle bydd pobl yn wylo'n chwerw ac mewn artaith.”
13
Yna dwedodd Iesu wrth y swyddog milwrol, “Dos! Cei yr hyn wnest ti gredu allai ddigwydd.” A dyna'n union pryd cafodd y gwas ei iacháu.
14
Dyma Iesu'n mynd i gartref Pedr. Yno gwelodd fam-yng-nghyfraith Pedr yn ei gwely gyda gwres uchel.
15
Cyffyrddodd Iesu ei llaw hi a diflannodd y tymheredd oedd ganddi, a dyma hi'n codi o'i gwely a gwneud pryd o fwyd iddo.
16
Pan oedd hi'n dechrau nosi dyma bobl yn dod â llawer iawn o rai oedd yng ngafael cythreuliaid at Iesu. Doedd ond rhaid iddo ddweud gair i fwrw allan yr ysbrydion drwg a iacháu pawb oedd yn sâl.
17
Felly dyma beth ddwedodd Duw drwy'r proffwyd Eseia yn dod yn wir: “Cymerodd ein gwendidau arno'i hun, a chario ein hafiechydon i ffwrdd.”
18
Pan welodd Iesu'r tyrfaoedd o bobl oedd o'i gwmpas, penderfynodd fod rhaid croesi i ochr draw'r llyn.
19
Yna dyma un o'r arbenigwyr yn y Gyfraith yn dod ato a dweud, “Athro, dw i'n fodlon dy ddilyn di ble bynnag byddi di'n mynd.”
20
Atebodd Iesu, “Mae gan lwynogod ffeuau ac adar nythod, ond does gen i, Mab y Dyn, ddim lle i orffwys.”
21
Dyma un arall o'i ddilynwyr yn dweud wrtho, “Arglwydd, gad i mi fynd adre i gladdu fy nhad gyntaf.”
22
Ond ateb Iesu oedd, “Dilyn di fi. Gad i'r rhai sy'n farw eu hunain gladdu eu meirw.”
23
Felly i ffwrdd â Iesu i'r cwch, a'i ddisgyblion ar ei ôl.
24
Yn gwbl ddirybudd, cododd storm ofnadwy ar y llyn, nes bod y cwch yn cael ei gladdu gan y tonnau. Ond cysgodd Iesu'n drwm drwy'r cwbl!
25
Dyma'r disgyblion yn mynd ato mewn panig a'i ddeffro, “Achub ni Arglwydd!” medden nhw, “Dŷn ni'n mynd i foddi!”
26
“Pam dych chi mor ofnus?” meddai Iesu, “Ble mae'ch ffydd chi?” Yna cododd ar ei draed a cheryddu'r gwynt a'r tonnau, ac yn sydyn roedd pobman yn hollol dawel.
27
Roedd y disgyblion yn gwbl syfrdan. “Beth ydyn ni i'w wneud o'r dyn yma?” medden nhw, “Mae hyd yn oed y gwyntoedd a'r tonnau yn ufuddhau iddo!”
28
Ar ôl iddo groesi'r llyn i ardal y Gadareniaid, dyma ddau ddyn oedd yng ngafael cythreuliaid yn dod i'w gyfarfod o gyfeiriad y fynwent. Roedd y dynion yma mor beryglus, doedd hi ddim yn saff i bobl fynd heibio'r ffordd honno.
29
Dyma nhw'n gweiddi'n uchel, “Gad di lonydd i ni Fab Duw! Wyt ti wedi dod yma i'n poenydio ni cyn i'r amser pan fydd hynny'n digwydd ddod?”
30
Roedd cenfaint fawr o foch yn pori draw oddi wrthyn nhw,
31
a dyma'r cythreuliaid yn pledio arno, “Gad i ni fynd i mewn i'r genfaint o foch acw os wyt ti'n mynd i'n bwrw ni allan.”
32
“Ewch!” meddai Iesu. Felly allan â nhw o'r dyn ac i mewn i'r moch. A'r peth nesa, dyma'r moch i gyd yn rhuthro i lawr y llechwedd serth a boddi yn y llyn.
33
Dyma'r rhai oedd yn gofalu am y moch yn rhedeg i ffwrdd i'r dre i adrodd y stori, a dweud am bopeth oedd wedi digwydd i'r dynion oedd wedi bod yng ngafael cythreuliaid.
34
Yna dyma pawb yn dod allan o'r dre i gyfarfod Iesu. Ar ôl dod o hyd iddo, dyma nhw'n pwyso arno i adael eu hardal.
← Chapter 7
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 9 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28