bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Nehemiah 3
Nehemiah 3
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 4 →
1
Dyma Eliashif yr archoffeiriad a'i gyd-offeiriaid yn mynd ati i adeiladu Giât y Defaid. Yna ei chysegru a gosod y drysau yn eu lle. Nhw wnaeth y gwaith hyd at Dŵr y Cant a Tŵr Chanan-el.
2
Yna dynion Jericho wnaeth adeiladu'r darn nesaf, a Saccwr fab Imri y darn ar ôl hwnnw.
3
Teulu Hassenâ wnaeth adeiladu Giât y Pysgod, a gosod ei thrawstiau a'r drysau, y bolltau a'r barrau yn eu lle.
4
Meremoth fab Wreia ac ŵyr i Hacots wnaeth drwsio'r darn nesaf. Meshwlam fab Berecheia ac ŵyr i Meshesafel y darn wedyn. Sadoc fab Baana y darn ar ôl hwnnw,
5
a dynion Tecoa ar y darn nesaf wedyn. Ond doedd arweinwyr Tecoa ddim yn fodlon helpu gyda'r gwaith oedd yr arolygwyr wedi ei roi iddyn nhw.
6
Ioiada fab Paseach a Meshwlam fab Besodeia oedd yn gweithio ar Giât Ieshana. Nhw wnaeth osod y trawstiau a'r drysau, y bolltau a'r barrau yn eu lle.
7
Yna roedd Melatia o Gibeon a Iadon o Meronoth yn gweithio ar y darn nesaf gyda dynion eraill o Gibeon a Mitspa (lle roedd llywodraethwr Traws-Ewffrates yn byw).
8
Wedyn roedd Wssiel fab Charhaia (aelod o Urdd y Gofaint Aur) yn atgyweirio'r darn nesaf, a Chananeia (aelod o Urdd y Gwerthwyr Persawr) yn atgyweirio'r darn ar ôl hwnnw. Nhw wnaeth drwsio wal Jerwsalem yr holl ffordd at y Wal Lydan.
9
Reffaia fab Hur, pennaeth hanner ardal Jerwsalem, oedd yn gweithio ar y darn nesaf.
10
Iedaia fab Charwmaff ar y darn ar ôl hwnnw, gyferbyn â'i dŷ, a Chattwsh fab Chashafneia ar y darn wedyn.
11
Roedd Malcîa fab Charîm a Chashwf fab Pachath-Moab yn gweithio ar ddarn arall ac ar Dŵr y Poptai.
12
Yna roedd Shalwm fab Halochesh, pennaeth hanner arall ardal Jerwsalem, yn gweithio ar y darn nesaf, gyda'i ferched yn ei helpu.
13
Chanŵn a pobl Sanoach oedd yn gweithio ar Giât y Dyffryn. Nhw wnaeth ei hailadeiladu, a gosod ei drysau, ei bolltau a'i barrau yn eu lle. Nhw hefyd wnaeth y gwaith ar y wal yr holl ffordd at Giât y Sbwriel — 450 metr i gyd.
14
Malcîa fab Rechab, pennaeth Ardal Beth-hacerem, oedd yn gweithio ar Giât y Sbwriel. Fe wnaeth ei hailadeiladu, a gosod y drysau, y bolltau a'r barrau yn eu lle.
15
Wedyn Shalwn fab Colchose, pennaeth ardal Mitspa, oedd yn gweithio ar Giât y Ffynnon. Ailadeiladodd hi, rhoi to arni, a gosod y drysau, bolltau a barrau yn eu lle. A fe hefyd wnaeth ailadeiladu'r wal o Bwll Siloam (wrth ymyl y gerddi brenhinol) yr holl ffordd at y grisiau sy'n mynd i lawr o Ddinas Dafydd.
16
Yna Nehemeia fab Asbwc, pennaeth hanner ardal Beth-tswr, oedd yn gweithio ar y darn nesaf, yr holl ffordd at fynwent Dafydd, y pwll artiffisial a barics y fyddin.
17
Lefiaid oedd yn gweithio ar y darnau nesaf — Rechwm fab Bani, ac wedyn Chashafeia, pennaeth hanner ardal Ceila.
18
Yna Lefiaid eraill — Binnŵi fab Chenadad, pennaeth hanner arall ardal Ceila.
19
Ar ei ôl e, Eser fab Ieshŵa, pennaeth tref Mitspa, yn gweithio ar y darn gyferbyn â'r llethr i fyny at y storfa arfau lle mae'r bwtres.
20
Wedyn Barŵch fab Sabbai yn gweithio ar y darn rhwng y bwtres a'r drws i dŷ Eliashif yr Archoffeiriad.
21
A Meremoth fab Wreia ac ŵyr Hacots yn gweithio ar ddarn arall o ddrws tŷ Eliashif i dalcen y tŷ.
22
Yr offeiriaid oedd yn gweithio ar y darn nesaf — dynion oedd yn byw yn y cylch.
23
Wedyn Benjamin a Chashwf yn gweithio gyferbyn â'u tŷ nhw. Asareia fab Maaseia ac ŵyr Ananeia, yn gweithio wrth ymyl ei dŷ e.
24
Binnŵi fab Chenadad yn gweithio ar y darn nesaf, o dŷ Asareia at y bwtres ar y gornel.
25
Wedyn Palal fab Wsai yn gweithio gyferbyn â'r bwtres a'r tŵr sy'n sticio allan o'r palas uchaf wrth ymyl iard y gwarchodlu. Yna roedd Pedaia fab Parosh
26
a gweision y deml oedd yn byw ar Fryn Offel yn gweithio ar y darn i fyny at Giât y Dŵr i'r dwyrain lle mae'r tŵr sy'n sticio allan.
27
Wedyn dynion Tecoa eto yn gweithio ar y darn o'r tŵr mawr hwnnw i wal Bryn Offel.
28
Offeiriaid oedd yn gweithio yr ochr uchaf i Giât y Ceffylau hefyd, pob un o flaen ei dŷ ei hun.
29
Sadoc fab Immer yn gweithio gyferbyn â'i dŷ e, a Shemaia fab Shechaneia, porthor Giât y Dwyrain, yn gweithio ar y darn nesaf.
30
Wedyn Chananeia fab Shelemeia a Chanŵn, chweched mab Salaff, yn gweithio ar ddarn arall. Yna, ar eu holau nhw, Meshwlam fab Berecheia yn gweithio ar y darn gyferbyn â'r ystafell lle roedd e'n byw.
31
Wedyn Malcîa, un o'r gofaint aur, yn gweithio ar y darn hyd at lety gweision y deml a'r masnachwyr, gyferbyn â Giât y Mwstro, ac i fyny at yr ystafell uwchben y gornel.
32
Yna roedd y gofaint aur a'r masnachwyr yn gweithio ar y darn olaf, o'r ystafell uwchben y gornel at Giât y Defaid.
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 4 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13