bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Nehemiah 7
Nehemiah 7
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 6
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 8 →
1
Roedd y wal wedi ei gorffen, drysau'r giatiau wedi eu gosod yn eu lle, a gofalwyr y giatiau, cantorion a Lefiaid wedi eu penodi.
2
A dyma fi'n apwyntio Chanani (perthynas i mi), a Chananeia, pennaeth y gaer, i fod yn gyfrifol am Jerwsalem. Roedd Chananeia'n ddyn y gallwn ei drystio, ac yn fwy duwiol na'r rhan fwya o bobl.
3
Dwedais wrthyn nhw, “Ddylai giatiau'r ddinas ddim bod ar agor pan mae'r haul yn boeth ganol dydd. Dylen nhw aros dan glo nes bod y gofalwyr yn ôl ar ddyletswydd. A rhaid i chi osod rhai o bobl Jerwsalem yn wylwyr ar y waliau, ac eraill wrth eu tai.”
4
Roedd digon o le yn y ddinas, a dim llawer o bobl yn byw ynddi. Doedd bron ddim tai wedi eu hadeiladu ynddi bryd hynny.
5
A dyma Duw yn rhoi syniad i mi, i alw'r arweinwyr a'r swyddogion a'r bobl gyffredin at ei gilydd, a'u cofrestru nhw yn ôl eu teuluoedd. Dyma fi'n dod o hyd i restrau teuluol y rhai ddaeth yn ôl yn wreiddiol. A dyma beth oedd wedi ei gofnodi:
6
Dyma restr o bobl y dalaith ddaeth allan o Babilon. Cawson nhw eu cymryd yn gaeth yno gan Nebwchadnesar, brenin Babilon. Daeth pob un yn ôl i Jerwsalem ac i'r trefi eraill yn Jwda lle roedden nhw'n arfer byw.
7
Yr arweinwyr oedd Serwbabel, Ieshŵa, Nehemeia, Asareia, Raameia, Nachamani, Mordecai, Bilshan, Mispar, Bigfai, Nechwm a Baana. Dyma faint o bobl Israel ddaeth yn ôl:
8
Teulu Parosh: 2,172
9
Teulu Sheffateia: 372
10
Teulu Arach: 652
11
Teulu Pachath-Moab (o deuluoedd Ieshŵa a Joab): 2,818
12
Teulu Elam: 1,254
13
Teulu Sattw: 845
14
Teulu Saccai: 760
15
Teulu Binnŵi: 648
16
Teulu Bebai: 628
17
Teulu Asgad: 1,322
18
Teulu Adonicam: 667
19
Teulu Bigfai: 2,067
20
Teulu Adin: 655
21
Teulu Ater (sef disgynyddion Heseceia): 98
22
Teulu Chashŵm: 328
23
Teulu Betsai: 324
24
Teulu Chariff: 112
25
Teulu Gibeon: 95
26
Dynion Bethlehem a Netoffa: 188
27
Dynion Anathoth: 128
28
Dynion Beth-asmafeth: 42
29
Dynion Ciriath-iearim, Ceffira a Beëroth: 743
30
Dynion Rama a Geba: 621
31
Dynion Michmas: 122
32
Dynion Bethel ac Ai: 123
33
Pobl y Nebo arall: 52
34
Pobl yr Elam arall: 1,254
35
Pobl Charîm: 320
36
Pobl Jericho: 345
37
Pobl Lod, Hadid ac Ono: 721
38
Pobl Sena'a: 3,930
39
Yr offeiriaid: Teulu Idaïa (o linach Ieshŵa): 973
40
Teulu Immer: 1,052
41
Teulu Pashchwr: 1,247
42
Teulu Charîm: 1,017
43
Y Lefiaid: Teulu Ieshŵa (drwy Cadmiel o deulu Hodefa): 74
44
Y cantorion: Teulu Asaff: 148
45
Gofalwyr y giatiau: Teuluoedd Shalwm, Ater, Talmon, Accwf, Chatita a Shobai: 138
46
Gweision y deml: Teulu Sicha Teulu Chaswffa Teulu Tabbaoth
47
Teulu Ceros Teulu Sïa Teulu Padon
48
Teulu Lebana Teulu Hagaba Teulu Shalmai
49
Teulu Chanan Teulu Gidel Teulu Gachar
50
Teulu Reaia Teulu Resin Teulu Necoda
51
Teulu Gassam Teulu Wssa Teulu Paseach
52
Teulu Besai Teulu Mewnim Teulu Neffwshesim
53
Teulu Bacbwc Teulu Chacwffa Teulu Charchwr
54
Teulu Batslith Teulu Mechida Teulu Charsha
55
Teulu Barcos Teulu Sisera Teulu Temach
56
Teulu Netsïach Teulu Chatiffa.
57
Teuluoedd gweision Solomon: Teulu Sotai Teulu Soffereth Teulu Perida
58
Teulu Jala Teulu Darcon Teulu Gidel
59
Teulu Sheffateia Teulu Chattil Teulu Pochereth-hatsbaîm Teulu Amon.
60
Cyfanswm gweision y deml a theuluoedd gweision Solomon: 392.
61
Daeth pobl eraill o drefi Tel-melach, Tel-harsha, Cerwb, Adon, ac Immer (ond doedd y rhain ddim yn gallu profi eu bod nhw a'u teuluoedd yn dod o Israel yn wreiddiol):
62
Teulu Delaia, teulu Tobeia a theulu Necoda: 652
63
Wedyn yr offeiriaid, sef teuluoedd Chafaia, Hacots, a Barsilai (dyn oedd wedi priodi un o ferched Barsilai o Gilead, ac wedi cymryd ei enw).
64
Roedd y rhain hefyd wedi chwilio am gofnod o'u teuluoedd yn y rhestrau achau, ond wedi methu ffeindio dim byd. Felly cawson nhw eu rhwystro rhag gwasanaethu fel offeiriaid.
65
Dwedodd y llywodraethwr nad oedden nhw i gael bwyta'r bwyd oedd wedi ei gysegru, nes byddai offeiriad yn codi oedd yn gallu penderfynu drwy ddefnyddio'r Wrim a'r Thwmim.
66
Cyfanswm y bobl aeth yn ôl oedd 42,360,
67
(heb gyfri'r 7,337 o weision a morynion oedd ganddyn nhw; ac roedd 245 o gantorion — dynion a merched — gyda nhw hefyd).
68
[68-69] Roedd ganddyn nhw 736 o geffylau, 245 o fulod, 435 o gamelod a 6,720 o asynnod.
70
Dyma rai o benaethiaid y claniau yn cyfrannu tuag at y gwaith. Y llywodraethwr — 8 cilogram o aur, 50 powlen, a 530 o wisgoedd i'r offeiriaid.
71
Penaethiaid y claniau — 160 cilogram o aur a 1,300 cilogram o arian.
72
Yna cyfraniad gweddill y bobl oedd 160 cilogram o aur a 1,200 cilogram o arian, a 67 o wisgoedd i'r offeiriaid.
73
Felly dyma'r offeiriaid, Lefiaid, cantorion, gofalwyr y giatiau a gweision y deml i gyd yn setlo i lawr yn eu trefi eu hunain. Ac aeth gweddill pobl Israel yn ôl i fyw i'w trefi hwythau hefyd. Pan ddaeth y seithfed mis, aeth pobl Israel o'u trefi
← Chapter 6
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 8 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13