bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Romans 12
Romans 12
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 11
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 13 →
1
Felly, am fod Duw wedi bod mor drugarog wrthoch chi, frodyr a chwiorydd, dw i'n apelio ar i chi roi eich hunain yn llwyr i Dduw. Cyflwyno eich hunain iddo yn aberth byw — un sy'n lân ac yn dderbyniol ganddo. Dyna beth ydy addoliad go iawn!
2
O hyn ymlaen rhaid i chi stopio ymddwyn yr un fath â phobl sydd ddim yn credu. Gadewch i Dduw newid eich bywyd chi'n llwyr drwy chwyldroi eich ffordd o feddwl am bethau. Byddwch yn gwybod wedyn beth mae Duw eisiau, ac yn gweld fod hynny'n dda ac yn ei blesio fe, ac mai dyna'r peth iawn i'w wneud.
3
Gadewch i mi ddweud hyn wrthoch chi, fel rhywun mae Duw wedi bod mor garedig ato: Peidiwch meddwl eich bod chi'n well nag ydych chi. Byddwch yn onest gyda chi'ch hun wrth ystyried faint o ffydd mae Duw wedi ei roi i chi.
4
Mae'r eglwys yr un fath â'r corff dynol — mae gwahanol rannau i'r corff, a dydy pob rhan o'r corff ddim yn gwneud yr un gwaith.
5
Yn yr eglwys dŷn ni gyda'n gilydd yn gwneud un corff, sef corff y Meseia. Mae pob un ohonon ni'n rhan o'r corff ac mae arnon ni angen pawb arall.
6
Mae Duw wedi rhoi doniau gwahanol i bob un ohonon ni. Os ydy Duw wedi rhoi'r gallu i ti roi neges broffwydol, gwna hynny pan rwyt ti'n gwybod fod Duw am i ti wneud.
7
Os mai helpu pobl eraill ydy dy ddawn di, gwna job dda ohoni. Os oes gen ti'r ddawn i ddysgu pobl eraill, gwna hynny'n gydwybodol.
8
Os wyt ti'n rhywun sy'n annog pobl eraill, bwrw iddi! Os wyt yn rhannu dy eiddo gydag eraill, bydd yn hael. Os oes gen ti'r ddawn i arwain, gwna hynny'n frwd. Os mai dangos caredigrwydd ydy dy ddawn di, gwna hynny'n llawen.
9
Rhaid i'ch cariad chi fod yn gariad go iawn — dim rhyw gariad arwynebol. Yn casáu y drwg â chasineb perffaith, ac yn dal gafael yn beth sy'n dda.
10
Byddwch o ddifri yn eich gofal am eich gilydd, a dangos parch at eich gilydd.
11
Peidiwch byth â gadael i'ch brwdfrydedd oeri, ond bod ar dân yn gweithio i'r Arglwydd yn nerth yr Ysbryd Glân.
12
Byddwch yn llawen wrth feddwl am y cwbl sydd gan Dduw ar eich cyfer chi. Byddwch yn amyneddgar tra dych chi'n dioddef, a daliwch ati i weddïo.
13
Rhannwch beth sydd gynnoch chi gyda phobl Dduw sydd mewn angen. Ewch allan o'ch ffordd i roi croeso i ymwelwyr yn eich cartrefi bob amser.
14
Peidiwch melltithio'r bobl hynny sy'n eich erlid chi — gofynnwch i Dduw eu bendithio nhw.
15
Byddwch yn llawen gyda phobl sy'n hapus, a crïo gyda'r rhai sy'n crïo.
16
Byddwch yn ffrindiau da i'ch gilydd. Peidiwch meddwl eich bod yn rhy bwysig i fod yn ffrindiau gyda'r bobl hynny sy'n ‛neb‛. Peidiwch rhoi'r argraff eich bod yn gwybod y cwbl.
17
Peidiwch byth talu'r pwyth yn ôl. Gadewch i bobl weld eich bod yn gwneud y peth anrhydeddus bob amser.
18
Gwnewch bopeth allwch chi i fyw mewn heddwch gyda phawb.
19
Peidiwch mynnu dial ar bobl, ffrindiau, gadewch i Dduw ddelio gyda'r peth. Fel mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud: “‘Fi sy'n dial; gwna i dalu yn ôl’ meddai'r Arglwydd.”
20
Dyma ddylet ti ei wneud: “Os ydy dy elyn yn llwgu, rho fwyd iddo; os ydy e'n sychedig, rho rywbeth i'w yfed iddo; wrth wneud hynny byddi'n tywallt marwor tanllyd ar ei ben.”
21
Paid gadael i ddrygioni dy ddal yn ei grafangau — trecha di ddrygioni trwy wneud daioni.
← Chapter 11
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 13 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16