bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Romans 7
Romans 7
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 6
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 8 →
1
Frodyr a chwiorydd, dych chi'n bobl sy'n gyfarwydd â Chyfraith Duw, felly mae'n rhaid eich bod chi'n deall cymaint â hyn: dydy'r Gyfraith ddim ond yn cyfri pan mae rhywun yn dal yn fyw.
2
Er enghraifft, mae Cyfraith Duw yn dweud fod gwraig briod i aros yn ffyddlon i'w gŵr tra mae'r gŵr hwnnw'n dal yn fyw. Ond, os ydy'r gŵr yn marw, dydy'r rheol ddim yn cyfri ddim mwy.
3
Mae hyn yn golygu, os ydy gwraig yn gadael ei gŵr a mynd i fyw gyda dyn arall pan mae ei gŵr hi'n dal yn fyw, mae hi'n godinebu. Ond os ydy ei gŵr hi wedi marw, mae'r sefyllfa'n wahanol. Mae ganddi hi hawl i briodi dyn arall wedyn.
4
Dyma beth dw i'n ei ddweud, ffrindiau — trwy farwolaeth y Meseia ar y groes dych chi hefyd wedi ‛marw‛ yn eich perthynas â'r Gyfraith. Bellach dych chi'n perthyn i un arall, sef i'r un gafodd ei godi yn ôl yn fyw ar ôl iddo farw. Felly dylai pobl weld ffrwyth hynny yn eich bywydau chi — ffrwyth fydd yn anrhydeddu Duw.
5
Pan roedd yr hen natur ddrwg yn ein rheoli ni, roedd Cyfraith Duw yn dangos y nwydau pechadurus hynny oedd ar waith yn ein bywydau ni, a'r canlyniad oedd marwolaeth.
6
Ond bellach, dŷn ni wedi ein gollwng yn rhydd o afael y Gyfraith. Dŷn ni wedi marw i beth oedd yn ein caethiwo ni o'r blaen. Dŷn ni'n rhydd i wasanaethu Duw yn ffordd newydd yr Ysbryd, ddim yn yr hen ffordd o geisio cadw at lythyren y ddeddf.
7
Felly beth mae hyn yn ei olygu? Ydw i'n awgrymu fod y Gyfraith roddodd Duw yn beth drwg? Wrth gwrs ddim! Heb y Gyfraith fyddwn i ddim yn gwybod fy mod i'n pechu. Sut fyddwn i'n gwybod fod chwennych yn beth drwg oni bai fod Cyfraith Duw yn dweud “Paid chwennych”
8
Ond yna roedd pechod yn gweld ei gyfle ac yn defnyddio'r gorchymyn i wneud i mi chwennych pob math o bethau drwg. Heb y Gyfraith mae pechod gystal â bod yn farw!
9
Ar un adeg roeddwn i'n gallu byw yn ddigon hapus heb y Gyfraith. Ond wedyn cafodd y gorchymyn ei roi a dyma bechod yn codi ei ben hefyd.
10
Roeddwn i'n gweld fy mod i'n haeddu marw. Roedd y gorchymyn oedd i roi bywyd i mi wedi dod â marwolaeth.
11
Gwelodd pechod ei gyfle, a'm twyllo i. Fy nghondemnio i farwolaeth!
12
Mae Cyfraith Duw yn sanctaidd, a'r gorchmynion yn dweud beth sy'n iawn ac yn dda.
13
Felly ai y peth da yma wnaeth fy lladd i? Nage, wrth gwrs ddim! Y pechod mae'r peth da yn ei ddangos wnaeth fy lladd i. Felly beth mae'r gorchymyn yn ei wneud ydy dangos mor ofnadwy o ddrwg ydy pechod.
14
Dŷn ni'n gwybod bod Cyfraith Duw yn dda ac yn ysbrydol. Fi ydy'r drwg! Fi sy'n gnawdol. Fi sydd wedi fy ngwerthu'n rhwym i bechod.
15
Dw i ddim yn deall fy hun o gwbl. Yn lle gwneud beth dw i eisiau ei wneud, dw i'n cael fy hun yn gwneud beth dw i'n ei gasáu!
16
Ac os dw i'n gwybod mod i'n gwneud y peth anghywir, dw i'n cytuno fod Cyfraith Duw yn dda.
17
Mae fel taswn i fy hun wedi colli rheolaeth, a'r pechod sydd y tu mewn i mi wedi cymryd drosodd.
18
Dw i'n gwybod yn iawn pa mor ddrwg ydw i y tu mewn! Yr hunan ydy popeth! Dw i eisiau byw yn dda, ond dw i'n methu!
19
Yn lle gwneud y pethau da dw i eisiau eu gwneud, dw i'n dal ati i wneud y pethau drwg dw i ddim eisiau eu gwneud.
20
Ac os dw i'n gwneud beth dw i ddim eisiau ei wneud, dim fi sy'n rheoli bellach — y pechod y tu mewn i mi sydd wedi cymryd drosodd.
21
Felly, er fy mod i eisiau gwneud beth sy'n iawn, mae'r drwg yno yn cynnig ei hun i mi.
22
Yn y bôn dw i'n cytuno gyda Cyfraith Duw.
23
Ond mae rhyw ‛gyfraith‛ arall ar waith yn fy mywyd i — mae'n brwydro yn erbyn y Gyfraith dw i'n cytuno â hi, ac yn fy ngwneud i'n garcharor i bechod. Mae wedi cymryd drosodd yn llwyr!
24
Dw i mewn picil go iawn! Oes yna ffordd allan? Pwy sy'n mynd i'm hachub i o ganlyniadau'r bywyd yma o bechu?
25
Duw, diolch iddo! — o achos beth wnaeth ein Harglwydd ni, Iesu y Meseia. Felly dyma sut mae hi arna i: Dw i'n awyddus i wneud beth mae Cyfraith Duw'n ei ddweud, ond mae'r hunan pechadurus eisiau gwasanaethu'r ‛gyfraith‛ arall, sef pechod.
← Chapter 6
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 8 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16