bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
1 John 1
1 John 1
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 2 →
1
Yr hyn oedd o'r dechreuad, yr hyn a glywsom, yr hyn a welsom â'n llygaid, yr hyn a edrychasom arno, ac a deimlodd ein dwylo am Air y bywyd;
2
(Canys y bywyd a eglurhawyd, ac ni a welsom, ac ydym yn tystiolaethu, ac yn mynegi i chwi'r bywyd tragwyddol, yr hwn oedd gyda'r Tad, ac a eglurhawyd i ni;)
3
Yr hyn a welsom ac a glywsom yr ydym yn ei fynegi i chwi, fel y caffoch chwithau hefyd gymdeithas gyda ni: a'n cymdeithas ni yn wir sydd gyda'r Tad, a chyda'i Fab ef Iesu Grist.
4
A'r pethau hyn yr ydym yn eu hysgrifennu atoch, fel y byddo eich llawenydd yn gyflawn.
5
A hon yw'r genadwri a glywsom ganddo ef, ac yr ydym yn ei hadrodd i chwi; Mai goleuni yw Duw, ac nad oes ynddo ddim tywyllwch.
6
Os dywedwn fod i ni gymdeithas ag ef, a rhodio yn y tywyllwch, celwyddog ydym, ac nid ydym yn gwneuthur y gwirionedd:
7
Eithr os rhodiwn yn y goleuni, megis y mae efe yn y goleuni, y mae i ni gymdeithas â'n gilydd, a gwaed Iesu Grist ei Fab ef, sydd yn ein glanhau ni oddi wrth bob pechod.
8
Os dywedwn nad oes ynom bechod, yr ydym yn ein twyllo ein hunain, a'r gwirionedd nid yw ynom.
9
Os cyfaddefwn ein pechodau, ffyddlon yw efe a chyfiawn, fel y maddeuo i ni ein pechodau, ac y'n glanhao oddi wrth bob anghyfiawnder.
10
Os dywedwn na phechasom, yr ydym yn ei wneuthur ef yn gelwyddog, a'i air ef nid yw ynom.
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 2 →
All chapters:
1
2
3
4
5