bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
1 John 5
1 John 5
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
1
Pob un a'r sydd yn credu mai Iesu yw'r Crist, o Dduw y ganed ef: a phob un a'r sydd yn caru'r hwn a genhedlodd, sydd yn caru hefyd yr hwn a genhedlwyd ohono.
2
Yn hyn y gwyddom ein bod yn caru plant Duw, pan fyddom yn caru Duw, ac yn cadw ei orchmynion ef.
3
Canys hyn yw cariad Duw; bod i ni gadw ei orchmynion: a'i orchmynion ef nid ydynt drymion.
4
Oblegid beth bynnag a aned o Dduw, y mae yn gorchfygu'r byd: a hon yw'r oruchafiaeth sydd yn gorchfygu'r byd, sef ein ffydd ni.
5
Pwy yw'r hwn sydd yn gorchfygu'r byd, ond yr hwn sydd yn credu mai Iesu yw Mab Duw?
6
Dyma'r hwn a ddaeth trwy ddwfr a gwaed, sef Iesu Grist; nid trwy ddwfr yn unig, ond trwy ddwfr a gwaed. A'r Ysbryd yw'r hwn sydd yn tystiolaethu, oblegid yr Ysbryd sydd wirionedd.
7
Oblegid y mae tri yn tystiolaethu yn y nef; y Tad, y Gair, a'r Ysbryd Glân: a'r tri hyn un ydynt.
8
Ac y mae tri yn tystiolaethu ar y ddaear; yr ysbryd, y dwfr, a'r gwaed: a'r tri hyn, yn un y maent yn cytuno.
9
Os tystiolaeth dynion yr ydym yn ei derbyn, y mae tystiolaeth Duw yn fwy: canys hyn yw tystiolaeth Duw, yr hon a dystiolaethodd efe am ei Fab.
10
Yr hwn sydd yn credu ym Mab Duw, sydd ganddo'r dystiolaeth ynddo ei hun: yr hwn nid yw yn credu yn Nuw, a'i gwnaeth ef yn gelwyddog, oblegid na chredodd y dystiolaeth a dystiolaethodd Duw am ei Fab.
11
A hon yw'r dystiolaeth; roddi o Dduw i ni fywyd tragwyddol: a'r bywyd hwn sydd yn ei Fab ef.
12
Yr hwn y mae'r Mab ganddo, y mae'r bywyd ganddo; a'r hwn nid yw ganddo Fab Duw, nid oes ganddo fywyd.
13
Y pethau hyn a ysgrifennais atoch chwi, y rhai ydych yn credu yn enw Mab Duw; fel y gwypoch fod i chwi fywyd tragwyddol, ac fel y credoch yn enw Mab Duw.
14
A hyn yw'r hyfder sydd gennym tuag ato ef; ei fod ef yn ein gwrando ni, os gofynnwn ddim yn ôl ei ewyllys ef.
15
Ac os gwyddom ei fod ef yn ein gwrando ni, pa beth bynnag a ddeisyfom, ni a wyddom ein bod yn cael y deisyfiadau a ddeisyfasom ganddo.
16
Os gwêl neb ei frawd yn pechu pechod nid yw i farwolaeth, efe a ddeisyf, ac efe a rydd iddo fywyd, i'r rhai sydd yn pechu nid i farwolaeth. Y mae pechod i farwolaeth: nid am hwnnw yr wyf yn dywedyd ar ddeisyf ohono.
17
Pob anghyfiawnder, pechod yw: ac y mae pechod nid yw i farwolaeth.
18
Ni a wyddom nad yw'r neb a aned o Dduw, yn pechu; eithr y mae'r hwn a aned o Dduw, yn ei gadw ei hun, a'r drwg hwnnw nid yw yn cyffwrdd ag ef.
19
Ni a wyddom ein bod o Dduw, ac y mae'r holl fyd yn gorwedd mewn drygioni.
20
Ac a wyddom ddyfod Mab Duw, ac efe a roes i ni feddwl, fel yr adnabyddom yr hwn sydd gywir; ac yr ydym yn y Cywir hwnnw, sef yn ei Fab ef Iesu Grist. Hwn yw'r gwir Dduw, a'r bywyd tragwyddol.
21
Y plant bychain, ymgedwch oddi wrth eilunod. Amen.
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
All chapters:
1
2
3
4
5