bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
1 Thessalonians 4
1 Thessalonians 4
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 5 →
1
Ymhellach gan hynny, frodyr, yr ydym yn atolwg i chwi, ac yn deisyf yn yr Arglwydd Iesu, megis y derbyniasoch gennym pa fodd y dylech rodio a bodloni Duw, ar i chwi gynyddu fwyfwy.
2
Canys chwi a wyddoch pa orchmynion a roddasom i chwi trwy'r Arglwydd Iesu.
3
Canys hyn yw ewyllys Duw, sef eich sancteiddiad chwi, ar ymgadw ohonoch rhag godineb:
4
Ar fedru o bob un ohonoch feddiannu ei lestr ei hun mewn sancteiddrwydd a pharch;
5
Nid mewn gwŷn trachwant, megis y Cenhedloedd y rhai nid adwaenant Dduw:
6
Na byddo i neb orthrymu na thwyllo ei frawd mewn dim: canys dialydd yw'r Arglwydd ar y rhai hyn oll, megis y dywedasom i chwi o'r blaen, ac y tystiasom.
7
Canys ni alwodd Duw nyni i aflendid, ond i sancteiddrwydd.
8
Am hynny y neb sydd yn dirmygu, nid dyn y mae yn ei ddirmygu, ond Duw, yr hwn hefyd a roddes ei Ysbryd Glân ynom ni.
9
Ond am frawdgarwch, nid rhaid i chwi ysgrifennu ohonof atoch: canys yr ydych chwi eich hunain wedi eich dysgu gan Dduw i garu eich gilydd.
10
Oblegid yr ydych yn gwneuthur hyn i bawb o'r brodyr y rhai sydd trwy holl Facedonia: ond yr ydym yn atolwg i chwi, frodyr, gynyddu ohonoch fwyfwy;
11
A rhoddi ohonoch eich bryd ar fod yn llonydd, a gwneuthur eich gorchwylion eich hunain, a gweithio â'ch dwylo eich hunain, (megis y gorchmynasom i chwi;)
12
Fel y rhodioch yn weddaidd tuag at y rhai sydd oddi allan, ac na byddo arnoch eisiau dim.
13
Ond ni ewyllysiwn, frodyr, i chwi fod heb wybod am y rhai a hunasant, na thristaoch, megis eraill y rhai nid oes ganddynt obaith.
14
Canys os ydym yn credu farw Iesu, a'i atgyfodi; felly y rhai a hunasant yn yr Iesu, a ddwg Duw hefyd gydag ef.
15
Canys hyn yr ydym yn ei ddywedyd wrthych yng ngair yr Arglwydd, na bydd i ni'r rhai byw, y rhai a adewir hyd ddyfodiad yr Arglwydd, ragflaenu'r rhai a hunasant.
16
Oblegid yr Arglwydd ei hun a ddisgyn o'r nef gyda bloedd, â llef yr archangel, ac ag utgorn Duw: a'r meirw yng Nghrist a gyfodant yn gyntaf:
17
Yna ninnau'r rhai byw, y rhai a adawyd, a gipir i fyny gyda hwynt yn y cymylau, i gyfarfod â'r Arglwydd yn yr awyr: ac felly y byddwn yn wastadol gyda'r Arglwydd.
18
Am hynny diddenwch eich gilydd â'r ymadroddion hyn.
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 5 →
All chapters:
1
2
3
4
5