bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
1 Thessalonians 5
1 Thessalonians 5
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
1
Eithr am yr amserau a'r prydiau, frodyr, nid rhaid i chwi ysgrifennu ohonof atoch.
2
Oblegid chwi a wyddoch eich hunain yn hysbys, mai felly y daw dydd yr Arglwydd fel lleidr yn y nos.
3
Canys pan ddywedant, Tangnefedd a diogelwch; yna y mae dinistr disymwth yn dyfod ar eu gwarthaf, megis gwewyr esgor ar un a fo beichiog; ac ni ddihangant hwy ddim.
4
Ond chwychwi, frodyr, nid ydych mewn tywyllwch, fel y goddiweddo'r dydd hwnnw chwi megis lleidr.
5
Chwychwi oll, plant y goleuni ydych, a phlant y dydd: nid ydym ni o'r nos, nac o'r tywyllwch.
6
Am hynny na chysgwn, fel rhai eraill; eithr gwyliwn, a byddwn sobr.
7
Canys y rhai a gysgant, y nos y cysgant; a'r rhai a feddwant, y nos y meddwant.
8
Eithr nyni, gan ein bod o'r dydd, byddwn sobr, wedi ymwisgo â dwyfronneg ffydd a chariad, ac â gobaith iachawdwriaeth yn lle helm.
9
Canys nid apwyntiodd Duw nyni i ddigofaint, ond i gaffael iachawdwriaeth trwy ein Harglwydd Iesu Grist,
10
Yr hwn a fu farw drosom; fel pa un bynnag a wnelom ai gwylied ai cysgu, y byddom fyw gydag ef.
11
Oherwydd paham cynghorwch eich gilydd, ac adeiledwch bob un eich gilydd, megis ag yr ydych yn gwneuthur.
12
Ac yr ydym yn atolwg i chwi, frodyr, adnabod y rhai sydd yn llafurio yn eich mysg, ac yn eich llywodraethu chwi yn yr Arglwydd, ac yn eich rhybuddio;
13
A gwneuthur cyfrif mawr ohonynt mewn cariad, er mwyn eu gwaith. Byddwch dangnefeddus yn eich plith eich hunain.
14
Ond yr ydym yn deisyf arnoch, frodyr, rhybuddiwch y rhai afreolus, diddenwch y gwan eu meddwl, cynheliwch y gweiniaid, byddwch ymarhous wrth bawb.
15
Gwelwch na thalo neb ddrwg dros ddrwg i neb: eithr yn wastadol dilynwch yr hyn sydd dda, tuag at eich gilydd, a thuag at bawb.
16
Byddwch lawen yn wastadol.
17
Gweddïwch yn ddi-baid.
18
Ym mhob dim diolchwch: canys hyn yw ewyllys Duw yng Nghrist Iesu tuag atoch chwi.
19
Na ddiffoddwch yr Ysbryd.
20
Na ddirmygwch broffwydoliaethau.
21
Profwch bob peth: deliwch yr hyn sydd dda.
22
Ymgedwch rhag pob rhith drygioni.
23
A gwir Dduw'r tangnefedd a'ch sancteiddio yn gwbl oll: a chadwer eich ysbryd oll, a'ch enaid, a'ch corff, yn ddiargyhoedd yn nyfodiad ein Harglwydd Iesu Grist.
24
Ffyddlon yw'r hwn a'ch galwodd, yr hwn hefyd a'i gwna.
25
O frodyr, gweddïwch drosom.
26
Anerchwch yr holl frodyr â chusan sancteiddiol.
27
Yr ydwyf yn eich tynghedu yn yr Arglwydd, ar ddarllen y llythyr hwn i'r holl frodyr sanctaidd.
28
Gras ein Harglwydd Iesu Grist fyddo gyda chwi. Amen. Y cyntaf at y Thesaloniaid a ysgrifennwyd o Athen.
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
All chapters:
1
2
3
4
5