bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Jonah 2
Jonah 2
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 3 →
1
A Jona a weddïodd ar yr ARGLWYDD ei DDUW o fol y pysgodyn,
2
Ac a ddywedodd, O'm hing y gelwais ar yr ARGLWYDD, ac efe a'm hatebodd; o fol uffern y gwaeddais, a chlywaist fy llef.
3
Ti a'm bwriaist i'r dyfnder, i ganol y môr; a'r llanw a'm hamgylchodd: dy holl donnau a'th lifeiriaint a aethant drosof.
4
A minnau a ddywedais, Bwriwyd fi o ŵydd dy lygaid; er hynny mi a edrychaf eto tua'th deml sanctaidd.
5
Y dyfroedd a'm hamgylchasant hyd yr enaid; y dyfnder a ddaeth o'm hamgylch; ymglymodd yr hesg am fy mhen.
6
Disgynnais i odre'r mynyddoedd; y ddaear a'i throsolion oedd o'm hamgylch yn dragywydd: eto ti a ddyrchefaist fy einioes o'r ffos, O ARGLWYDD fy NUW.
7
Pan lewygodd fy enaid ynof, cofiais yr ARGLWYDD; a'm gweddi a ddaeth i mewn atat i'th deml sanctaidd.
8
Y neb a gadwant oferedd celwydd, a wrthodant eu trugaredd eu hun.
9
A minnau mewn llais clodforedd a aberthaf i ti, talaf yr hyn a addunedais. Iachawdwriaeth sydd eiddo yr ARGLWYDD.
10
A llefarodd yr ARGLWYDD wrth y pysgodyn, ac efe a fwriodd Jona ar y tir sych.
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 3 →
All chapters:
1
2
3
4