bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Jonah 4
Jonah 4
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
1
A bu ddrwg iawn gan Jona hyn, ac efe a ddigiodd yn fawr.
2
Ac efe a weddïodd ar yr ARGLWYDD, ac a ddywedodd, Atolwg i ti, ARGLWYDD, oni ddywedais i hyn pan oeddwn eto yn fy ngwlad? am hynny yr achubais flaen i ffoi i Tarsis; am y gwyddwn dy fod di yn DDUW graslon a thrugarog, hwyrfrydig i ddig, aml o drugaredd, ac edifeiriol am ddrwg.
3
Am hynny yn awr, O ARGLWYDD, cymer, atolwg, fy einioes oddi wrthyf: canys gwell i mi farw na byw.
4
A'r ARGLWYDD a ddywedodd, Ai da yw y gwaith ymddigio ohonot?
5
A Jona a aeth allan o'r ddinas, ac a eisteddodd o'r tu dwyrain i'r ddinas, ac a wnaeth yno gaban iddo ei hun, ac a eisteddodd dano yn y cysgod, hyd oni welai beth a fyddai yn y ddinas.
6
A'r ARGLWYDD DDUW a ddarparodd gicaion, ac a wnaeth iddo dyfu dros Jona, i fod yn gysgod uwch ei ben ef, i'w waredu o'i ofid: a bu Jona lawen iawn am y cicaion.
7
A'r Arglwydd a baratôdd bryf ar godiad y wawr drannoeth, ac efe a drawodd y cicaion, ac yntau a wywodd.
8
A phan gododd haul, bu i DDUW ddarparu poethwynt y dwyrain; a'r haul a drawodd ar ben Jona, fel y llewygodd, ac y deisyfodd farw o'i einioes, ac a ddywedodd, Gwell i mi farw na byw.
9
A'r Arglwydd a ddywedodd wrth Jona, Ai da yw y gwaith ymddigio ohonot am y cicaion? Ac efe a ddywedodd, Da yw i mi ymddigio hyd angau.
10
A'r ARGLWYDD a ddywedodd, Ti a dosturiaist wrth y cicaion ni lafuriaist wrtho, ac ni pheraist iddo dyfu: mewn noswaith y bu, ac mewn noswaith y darfu:
11
Ac oni arbedwn i Ninefe y ddinas fawr, yr hon y mae ynddi fwy na deuddeng myrdd o ddynion, y rhai ni wyddant ragor rhwng eu llaw ddeau a'u llaw aswy, ac anifeiliaid lawer?
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
All chapters:
1
2
3
4