bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Malachi 1
Malachi 1
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 2 →
1
Baich gair yr ARGLWYDD at Israel trwy law Malachi.
2
Hoffais chwi, medd yr ARGLWYDD: a chwi a ddywedwch, Ym mha beth yr hoffaist ni? Onid brawd oedd Esau i Jacob? medd yr ARGLWYDD: eto Jacob a hoffais,
3
Ac Esau a gaseais, ac a osodais ei fynyddoedd yn ddiffeithwch, a'i etifeddiaeth i ddreigiau yr anialwch.
4
Lle y dywed Edom, Tlodwyd ni, eto dychwelwn, ac adeiladwn yr anghyfaneddleoedd; fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd; Hwy a adeiladant, ond minnau a fwriaf i lawr; a galwant hwynt yn Ardal drygioni, a'r Bobl wrth y rhai y llidiodd yr ARGLWYDD yn dragywydd.
5
Eich llygaid hefyd a welant, a chwithau a ddywedwch, Mawrygir yr ARGLWYDD oddi ar derfyn Israel.
6
Mab a anrhydedda ei dad, a gweinidog ei feistr: ac os ydwyf fi dad, pa le y mae fy anrhydedd? ac os ydwyf fi feistr, pa le y mae fy ofn? medd ARGLWYDD y lluoedd wrthych chwi yr offeiriaid, y rhai ydych yn dirmygu fy enw: a chwi a ddywedwch, Ym mha beth y dirmygasom dy enw di?
7
Offrymu yr ydych ar fy allor fara halogedig; a chwi a ddywedwch, Ym mha beth yr halogasom di? Am i chwi ddywedyd, Dirmygus yw bwrdd yr ARGLWYDD.
8
Ac os offrymu yr ydych y dall yn aberth, onid drwg hynny? ac os offrymwch y cloff a'r clwyfus, onid drwg hynny? cynnig ef yr awron i'th dywysog, a fydd efe bodlon i ti? neu a dderbyn efe dy wyneb? medd ARGLWYDD y lluoedd.
9
Ac yn awr gweddïwch, atolwg, gerbron DUW, fel y trugarhao wrthym: o'ch llaw chwi y bu hyn: a dderbyn efe wyneb un ohonoch? medd ARGLWYDD y lluoedd.
10
A phwy hefyd ohonoch a gaeai y dorau, neu a oleuai fy allor yn rhad? Nid oes gennyf fodlonrwydd ynoch chwi, medd ARGLWYDD y lluoedd, ac ni dderbyniaf offrwm o'ch llaw.
11
Canys o gyfodiad haul hyd ei fachludiad hefyd, mawr fydd fy enw ymysg y Cenhedloedd: ac ym mhob lle arogl-darth a offrymir i'm henw, ac offrwm pur: canys mawr fydd fy enw ymhlith y Cenhedloedd, medd ARGLWYDD y lluoedd.
12
Ond chwi a'i halogasoch ef, pan ddywedasoch, Bwrdd yr ARGLWYDD sydd halogedig; a'i ffrwyth, sef ei fwyd, sydd ddirmygus.
13
Chwi hefyd a ddywedasoch, Wele, pa flinder yw! a ffroenasoch arno, medd ARGLWYDD y lluoedd; a dygasoch yr hyn a ysglyfaethwyd, a'r cloff, a'r clwyfus; fel hyn y dygasoch offrwm: a fyddaf fi fodlon i hynny o'ch llaw chwi? medd yr ARGLWYDD.
14
Ond melltigedig yw y twyllodrus, yr hwn y mae yn ei ddiadell wryw, ac a adduna ac a abertha un llygredig i'r ARGLWYDD; canys Brenin mawr ydwyf fi, medd ARGLWYDD y lluoedd, a'm henw sydd ofnadwy ymhlith y cenhedloedd.
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 2 →
All chapters:
1
2
3
4