bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Malachi 4
Malachi 4
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
1
Canys wele y dydd yn dyfod, yn llosgi megis ffwrn; a'r holl feilchion, a holl weithredwyr anwiredd, a fyddant sofl: a'r dydd sydd yn dyfod a'u llysg hwynt, medd ARGLWYDD y lluoedd, fel na adawo iddynt na gwreiddyn na changen.
2
Ond Haul cyfiawnder a gyfyd i chwi, y rhai ydych yn ofni fy enw, â meddyginiaeth yn ei esgyll; a chwi a ewch allan, ac a gynyddwch megis lloi pasgedig.
3
A chwi a fethrwch yr annuwiolion; canys byddant yn lludw dan wadnau eich traed chwi, yn y dydd y gwnelwyf hyn, medd ARGLWYDD y lluoedd.
4
Cofiwch gyfraith Moses fy ngwas, yr hon a orchmynnais iddo ef yn Horeb i holl Israel, y deddfau a'r barnedigaethau.
5
Wele, mi a anfonaf i chwi Eleias y proffwyd, cyn dyfod dydd mawr ac ofnadwy yr ARGLWYDD:
6
Ac efe a dry galon y tadau at y plant, a chalon y plant at eu tadau; rhag i mi ddyfod a tharo y ddaear â melltith. TERFYN Y PROFFWYDI
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
All chapters:
1
2
3
4