bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Titus 1
Titus 1
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 2 →
1
Paul, gwas Duw, ac apostol Iesu Grist, yn ôl ffydd etholedigion Duw, ac adnabyddiaeth y gwirionedd, yr hon sydd yn ôl duwioldeb;
2
I obaith bywyd tragwyddol, yr hon a addawodd y digelwyddog Dduw cyn dechrau'r byd;
3
Eithr mewn amseroedd priodol efe a eglurhaodd ei air trwy bregethu, am yr hyn yr ymddiriedwyd i mi, yn ôl gorchymyn Duw ein Hiachawdwr;
4
At Titus, fy mab naturiol yn ôl y ffydd gyffredinol: Gras, trugaredd, a thangnefedd, oddi wrth Dduw Dad, a'r Arglwydd Iesu Grist ein Hiachawdwr ni.
5
Er mwyn hyn y'th adewais yn Creta, fel yr iawn drefnit y pethau sydd yn ôl, ac y gosodit henuriaid ym mhob dinas, megis yr ordeiniais i ti:
6
Os yw neb yn ddiargyhoedd, yn ŵr un wraig, a chanddo blant ffyddlon, heb gael y gair o fod yn afradlon, neu yn anufudd:
7
Canys rhaid i esgob fod yn ddiargyhoedd, fel goruchwyliwr Duw; nid yn gyndyn, nid yn ddicllon, nid yn wingar, nid yn drawydd, nid yn budrelwa;
8
Eithr yn lletygar, yn caru daioni, yn sobr, yn gyfiawn, yn sanctaidd, yn dymherus;
9
Yn dal yn lew y gair ffyddlon yn ôl yr addysg, fel y gallo gynghori yn yr athrawiaeth iachus, ac argyhoeddi'r rhai sydd yn gwrthddywedyd.
10
Canys y mae llawer yn anufudd, yn ofer‐siaradus, ac yn dwyllwyr meddyliau, yn enwedig y rhai o'r enwaediad:
11
Y rhai y mae yn rhaid cau eu safnau, y rhai sydd yn dymchwelyd tai cyfain, gan athrawiaethu'r pethau ni ddylid, er mwyn budrelw.
12
Un ohonynt hwy eu hunain, un o'u proffwydi hwy eu hunain, a ddywedodd, Y Cretiaid sydd bob amser yn gelwyddog, drwg fwystfilod, boliau gorddïog.
13
Y dystiolaeth hon sydd wir. Am ba achos argyhoedda hwy yn llym, fel y byddont iach yn y ffydd;
14
Heb ddal ar chwedlau Iddewaidd, a gorchmynion dynion, yn troi oddi wrth y gwirionedd.
15
Pur yn ddiau yw pob peth i'r rhai pur: eithr i'r rhai halogedig a'r di‐ffydd, nid pur dim; eithr halogedig yw hyd yn oed eu meddwl a'u cydwybod hwy.
16
Y maent yn proffesu yr adwaenant Dduw; eithr ar weithredoedd ei wadu y maent, gan fod yn ffiaidd, ac yn anufudd, ac at bob gweithred dda yn anghymeradwy.
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 2 →
All chapters:
1
2
3