bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Titus 2
Titus 2
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 3 →
1
Eithr llefara di'r pethau a weddo i athrawiaeth iachus:
2
Bod o'r hynafgwyr yn sobr, yn onest, yn gymesur, yn iach yn y ffydd, yng nghariad, mewn amynedd:
3
Bod o'r hynafwragedd yr un ffunud mewn ymddygiad fel y gweddai i sancteiddrwydd; nid yn enllibaidd, nid wedi ymroi i win lawer, yn rhoi athrawiaeth o ddaioni:
4
Fel y gallont wneuthur y gwragedd ieuainc yn bwyllog, i garu eu gwŷr, i garu eu plant,
5
Yn sobr, yn bur, yn gwarchod gartref, yn dda, yn ddarostyngedig i'w gwŷr priod, fel na chabler gair Duw.
6
Y gwŷr ieuainc yr un ffunud cynghora i fod yn sobr:
7
Gan dy ddangos dy hun ym mhob peth yn siampl i weithredoedd da: a dangos, mewn athrawiaeth, anllygredigaeth, gweddeidd‐dra, purdeb,
8
Ymadrodd iachus yr hwn ni aller beio arno; fel y byddo i'r hwn sydd yn y gwrthwyneb gywilyddio, heb ganddo ddim drwg i'w ddywedyd amdanoch chwi.
9
Cynghora weision i fod yn ddarostyngedig i'w meistriaid eu hun, ac i ryngu bodd iddynt ym mhob peth; nid yn gwrthddywedyd;
10
Nid yn darnguddio, ond yn dangos pob ffyddlondeb da; fel yr harddont athrawiaeth Duw ein Hiachawdwr ym mhob peth.
11
Canys ymddangosodd gras Duw, yr hwn sydd yn dwyn iachawdwriaeth i bob dyn;
12
Gan ein dysgu ni i wadu annuwioldeb a chwantau bydol, a byw yn sobr, ac yn gyfiawn, ac yn dduwiol, yn y byd sydd yr awron;
13
Gan ddisgwyl am y gobaith gwynfydedig, ac ymddangosiad gogoniant y Duw mawr, a'n Hiachawdwr Iesu Grist;
14
Yr hwn a'i rhoddes ei hun drosom, i'n prynu ni oddi wrth bob anwiredd, ac i'n puro ni iddo ei hun yn bobl briodol, awyddus i weithredoedd da.
15
Y pethau hyn llefara a chynghora, ac argyhoedda gyda phob awdurdod. Na ddiystyred neb di.
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 3 →
All chapters:
1
2
3