bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Zephaniah 1
Zephaniah 1
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 2 →
1
Gair yr ARGLWYDD yr hwn a ddaeth at Seffaneia mab Cusi, fab Gedaleia, fab Amareia, fab Heseceia, yn amser Joseia mab Amon brenin Jwda.
2
Gan ddistrywio y distrywiaf bob dim oddi ar wyneb y ddaear, medd yr ARGLWYDD.
3
Distrywiaf ddyn ac anifail; distrywiaf adar yr awyr, a physgod y môr; a'r tramgwyddiadau ynghyd â'r annuwiolion; a thorraf ymaith ddyn oddi ar wyneb y ddaear, medd yr ARGLWYDD.
4
Estynnaf hefyd fy llaw ar Jwda, ac ar holl breswylwyr Jerwsalem; a thorraf ymaith o'r lle hwn weddill Baal, ac enw y Chemariaid â'r offeiriaid;
5
A'r neb a ymgrymant ar bennau y tai i lu y nefoedd; a'r addolwyr y rhai a dyngant i'r ARGLWYDD, a hefyd a dyngant i Malcham;
6
A'r rhai a giliant oddi ar ôl yr ARGLWYDD; a'r rhai ni cheisiasant yr ARGLWYDD, ac nid ymofynasant amdano.
7
Distawa gerbron yr ARGLWYDD DDUW; canys agos yw dydd yr ARGLWYDD: oherwydd arlwyodd yr ARGLWYDD aberth, gwahoddodd ei wahoddedigion.
8
A bydd, ar ddydd aberth yr ARGLWYDD, i mi ymweled â'r tywysogion, ac â phlant y brenin, ac â phawb a wisgant wisgoedd dieithr.
9
Ymwelaf hefyd â phawb a neidiant ar y rhiniog y dydd hwnnw, y sawl a lanwant dai eu meistr â thrais ac â thwyll.
10
A'r dydd hwnnw, medd yr ARGLWYDD, y bydd llais gwaedd o borth y pysgod, ac udfa o'r ail, a drylliad mawr o'r bryniau.
11
Udwch, breswylwyr Machtes: canys torrwyd ymaith yr holl bobl o farchnadyddion; a holl gludwyr arian a dorrwyd ymaith.
12
A'r amser hwnnw y chwiliaf Jerwsalem â llusernau, ac yr ymwelaf â'r dynion sydd yn ceulo ar eu sorod; y rhai a ddywedant yn eu calon, Ni wna yr ARGLWYDD dda, ac ni wna ddrwg.
13
Am hynny eu cyfoeth a â yn ysbail, a'u teiau yn anghyfannedd: adeiladant hefyd dai, ond ni phreswyliant ynddynt; a phlannant winllannoedd, ond nid yfant o'r gwin.
14
Agos yw mawr ddydd yr ARGLWYDD, agos a phrysur iawn, sef llais dydd yr ARGLWYDD: yno y bloeddia y dewr yn chwerw.
15
Diwrnod llidiog yw y diwrnod hwnnw, diwrnod trallod a chyfyngdra, diwrnod dinistr ac anghyfanhedd-dra, diwrnod tywyll a du, diwrnod cymylau a thywyllni.
16
Diwrnod utgorn a larwm yn erbyn y dinasoedd caerog, ac yn erbyn y tyrau uchel.
17
A mi a gyfyngaf ar ddynion, a hwy a rodiant megis deillion, am bechu ohonynt yn erbyn yr ARGLWYDD; a'u gwaed a dywelltir fel llwch, a'u cnawd fel tom.
18
Nid eu harian na'u haur chwaith a ddichon eu hachub hwynt ar ddiwrnod llid yr ARGLWYDD; ond â thân ei eiddigedd ef yr ysir yr holl dir: canys gwna yr Arglwydd ddiben prysur ar holl breswylwyr y ddaear.
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 2 →
All chapters:
1
2
3