bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Zephaniah 2
Zephaniah 2
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 3 →
1
Ymgesglwch, ie, deuwch ynghyd, genedl anhawddgar;
2
Cyn i'r ddeddf esgor, cyn i'r dydd fyned heibio fel peiswyn, cyn dyfod arnoch lid digofaint yr ARGLWYDD, cyn dyfod arnoch ddydd soriant yr ARGLWYDD.
3
Ceisiwch yr ARGLWYDD, holl rai llariaidd y ddaear, y rhai a wnaethant ei farn ef; ceisiwch gyfiawnder, ceisiwch larieidd-dra: fe allai y cuddir chwi yn nydd digofaint yr ARGLWYDD.
4
Canys bydd Gasa yn wrthodedig, ac Ascalon yn anghyfannedd: gyrrant allan Asdod hanner dydd, a diwreiddir Ecron.
5
Gwae breswylwyr glan y môr, cenedl y Cerethiaid! y mae gair yr ARGLWYDD i'ch erbyn: O Ganaan, gwlad y Philistiaid, mi a'th ddifethaf, fel na byddo cyfanheddwr.
6
A bydd glan y môr yn drigfâu ac yn fythod i fugeiliaid, ac yn gorlannau defaid.
7
A bydd y fro yn rhan i weddill tŷ Jwda; porant arnynt: yn nheiau Ascalon y gorweddant yn yr hwyr: canys yr ARGLWYDD eu DUW a ymwêl â hwynt, ac a ddychwel eu caethiwed.
8
Clywais waradwyddiad Moab, a chabledd meibion Ammon, â'r hwn y gwaradwyddasant fy mhobl, ac yr ymfawrygasant yn erbyn eu terfynau hwynt.
9
Am hynny fel mai byw fi, medd ARGLWYDD y lluoedd, DUW Israel, Fel Sodom y bydd Moab, a meibion Ammon fel Gomorra: danhadldir, a phyllau halen, ac anghyfanheddle tragwyddol: gweddill fy mhobl a'u difroda, a gweddill fy nghenedl a'u meddianna hwynt.
10
Hyn a ddaw iddynt am eu balchder, am iddynt waradwyddo ac ymfawrygu yn erbyn pobl ARGLWYDD y lluoedd.
11
Ofnadwy a fydd yr ARGLWYDD iddynt: canys efe a newyna holl dduwiau y ddaear; ac addolant ef bob un o'i fan, sef holl ynysoedd y cenhedloedd.
12
Chwithau hefyd, yr Ethiopiaid, a leddir â'm cleddyf.
13
Ac efe a estyn ei law yn erbyn y gogledd, ac a ddifetha Asyria, ac a wna Ninefe yn anghyfannedd, ac yn sych fel diffeithwch.
14
A diadellau a orweddant yn ei chanol hi, holl anifeiliaid y cenhedloedd: y pelican a'r dylluan hefyd a letyant ar gap y drws; eu llais a gân yn y ffenestri; anghyfanhedd-dra a fydd yn y gorsingau: canys efe a ddinoetha y cedrwaith.
15
Hon yw y ddinas hoyw oedd yn trigo yn ddiofal, yn dywedyd yn ei chalon, Myfi sydd, ac nid oes ond myfi: pa fodd yr aeth yn anghyfannedd, yn orweddfa anifeiliaid! pawb a'r a êl heibio iddi, a'i hwtia, ac a ysgwyd ei law arni.
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 3 →
All chapters:
1
2
3