bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
2 Thessalonians 2
2 Thessalonians 2
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 3 →
1
Ond yr ydym yn gofyn i chwi, frodyr, gyda golwg ar Ddyfodiad ein Harglwydd Iesu Grist, a'n cyd‐gynnulliad ninnau atto ef,
2
na'ch sigler ar frys oddiwrth eich meddwl, na'ch cythrybler na chan yspryd, na chan air, na chan lythyr megys oddiwrthym ni, fel pe bae Dydd yr Arglwydd yn ymyl.
3
Na thwylled neb chwi mewn un modd: oblegyd ni ddaw heb ddyfod o'r Gwrthgiliad yn gyntaf, a dadguddio o'r Dyn Annghyfraith, Mab y Golledigaeth,
4
yr hwn sydd yn gwrthwynebu ac yn tra‐ymddyrchafu yn erbyn pob un a elwir yn Dduw, neu sydd yn wrthrych addoliad, fel y cymmer ei sedd yng Nghyssegr Duw, gan ddangos ei hun ei fod yn Dduw.
5
Onid côf gennych, tra yr oeddwn etto gyda chwi, i mi ddywedyd y pethau hyn wrthych?
6
Ac yn awr chwi a wyddoch yr hyn sydd yn attal, fel y dadguddier ef yn ei bryd ei hun.
7
Canys y mae dirgelwch Annghyfraith yn gweithio eisoes: etto yn unig hyd y symmuder ymaith yr hwn sydd yn attal,
8
ac yna y dadguddir y Dyn Annghyfraith yr hwn y bydd i'r Arglwydd Iesu ei gymmeryd ymaith âg anadl ei enau, a'i ddiddymmu âg Ymddangosiad ei Ddyfodiad,
9
sef yr hwn y mae ei ddyfodiad yn ol gweithrediad Satan, gyda phob gallu ac arwyddion a rhyfeddodau celwydd,
10
ac ym mhob twyll annghyfiawnder, i'r rhai sydd ar ffordd colledigaeth, gan na dderbyniasant gariad y gwirionedd fel y byddent gadwedig.
11
O herwydd hyn y mae Duw yn danfon iddynt weithrediad cyfeiliorni, fel y credont y celwydd;
12
fel y barner pawb na chredasant y gwirionedd, eithr a gawsant foddhâd mewn annghyfiawnder.
13
Eithr nyni a ddylem ddiolch yn wastadol i Dduw drosoch chwi, frodyr anwyl gan yr Arglwydd, o herwydd eich dewis gan Dduw o'r dechreuad i iachawdwriaeth, yn sancteiddiad yr yspryd, a chrediniaeth yn y gwirionedd;
14
i'r hyn y galwodd efe chwi trwy ein Hefengyl ni, i feddiannu gogoniant ein Harglwydd Iesu Grist.
15
Gan hynny, yn wir, frodyr, sefwch a deliwch yn dŷn y traddodiadau a ddysgasoch, pa un bynnag ai trwy ymadrodd ai trwy ein hepistol ni.
16
A'n Harglwydd Iesu Grist ei hun, a Duw ein Tâd, yr hwn a'n carodd, ac a roddodd i ni ddyddanwch tragywyddol a gobaith da trwy ras,
17
a ddyddano eich calonnau chwi, ac a'ch sicrhao ym mhob gweithred a gair da.
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 3 →
All chapters:
1
2
3