bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
2 Thessalonians 3
2 Thessalonians 3
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
1
Yn ddiweddaf, frodyr, gweddiwch drosom, ar fod i air yr Arglwydd redeg a'i ogoneddu, fel hefyd gyda chwithau,
2
ac ar ein gwared ni oddiwrth ddynion anaddas a drygionus; canys nid yw ffydd yn eiddo pawb.
3
Eithr ffyddlawn yw yr Arglwydd, yr hwn a'ch sefydla, ac a'ch gwarchod rhag yr un Drwg.
4
Ac y mae gennym hyder yn yr Arglwydd am danoch, eich bod yn gwneuthur ac y gwnewch y pethau yr ydym yn eu gorchymyn.
5
A'r Arglwydd a gyfarwyddo eich calonnau chwi i gariad Duw, ac i amynedd Crist.
6
Ac yr ydym yn gorchymyn i chwi, frodyr, yn enw ein Harglwydd Iesu Grist, dynnu o honoch ymaith oddiwrth bob brawd ar sydd yn rhodio yn afreolus, ac nid yn ol y traddodiad a dderbyniasant gennym;
7
canys chwi a wyddoch eich hunain pa fodd y dylech ein hefelychu ni, canys ni fuom afreolus yn eich plith;
8
ac ni fwyttasom fara yn rhad oddiar law neb, eithr mewn llafur a lludded, gan weithio nos a dydd, fel na fyddem yn faich ar neb o honoch;
9
nid nad oes gennym hawl, ond fel y rhoddem ein hunain yn esiampl i chwi, fel yr efelychech ni.
10
Canys hefyd pan oeddym gyda chwi, hyn a orchymynasom i chwi: Os oes neb ni fyn weithio, na fwyttâed chwaith.
11
Canys yr ydym yn clywed fod rhai yn rhodio yn eich plith yn afreolus, heb weithio dim, ond yn ymyrwyr;
12
ac i'r cyfryw rai yr ydym yn gorchymyn ac yn eu hannog yn yr Arglwydd Iesu Grist, ar iddynt, gan weithio mewn modd tawel, fwytta eu bara eu hunain.
13
A chwychwi, frodyr, na ddigalonnwch mewn gwneuthur daioni.
14
Ac od oes neb heb ufuddhâu i'n gair trwy y llythyr hwn, nodwch hwnnw allan, fel na chydgymmysgoch âg ef, fel y cywilyddio.
15
Ac na chyfrifwch ef fel gelyn, eithr cynghorwch ef fel brawd.
16
Ac Arglwydd y tangnefedd ei hun a roddo i chwi dangnefedd yn wastadol ym mhob modd. Yr Arglwydd fo gyda chwi oll.
17
Yr annerch â'm llaw i Paul, fy hun, yr hyn sydd arwydd ym mhob epistol. Felly yr wyf yn ysgrifennu.
18
Gras ein Harglwydd Iesu Grist fo gyda chwi oll.
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
All chapters:
1
2
3