bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
1 Corinthians 12
1 Corinthians 12
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 11
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 13 →
1
Ynglu375?n doniau ysbrydol, gyfeillion, nid wyf am ichwi fod yn anwybodus yn eu cylch.
2
Fe wyddoch sut y byddech yn cael eich ysgubo i ffwrdd at eilunod mud, pan oeddech yn baganiaid.
3
Am hynny, yr wyf yn eich hysbysu nad yw neb sydd yn llefaru trwy Ysbryd Duw yn dweud, "Melltith ar Iesu!" Ac ni all neb ddweud, "Iesu yw'r Arglwydd!" ond trwy yr Ysbryd Gln.
4
Y mae amrywiaeth doniau, ond yr un Ysbryd sy'n eu rhoi;
5
ac y mae amrywiaeth gweinidogaethau, ond yr un Arglwydd sy'n eu rhoi;
6
ac y mae amrywiaeth gweithrediadau, ond yr un Duw sydd yn gweithredu pob peth ym mhawb.
7
Rhoddir amlygiad o'r Ysbryd i bob un, er lles pawb.
8
Oherwydd fe roddir i un, trwy'r Ysbryd, lefaru doethineb; i un arall, lefaru gwybodaeth, yn l yr un Ysbryd;
9
i un arall rhoddir ffydd, trwy'r un Ysbryd; i un arall ddoniau iachu, trwy'r un Ysbryd;
10
i un arall gyflawni gwyrthiau, i un arall broffwydo, i un arall wahaniaethu rhwng ysbrydoedd, i un arall lefaru thafodau, i un arall ddehongli tafodau.
11
A'r holl bethau hyn, yr un a'r unrhyw Ysbryd sydd yn eu gweithredu, gan rannu, yn l ei ewyllys, i bob un ar wahn.
12
Oherwydd fel y mae'r corff yn un, a chanddo lawer o aelodau, a'r rheini oll, er eu bod yn llawer, yn un corff, fel hyn y mae Crist hefyd.
13
Oherwydd mewn un Ysbryd y cawsom i gyd ein bedyddio i un corff, boed yn Iddewon neu yn Roegiaid, yn gaethweision neu yn rhyddion, a rhoddwyd i bawb ohonom un Ysbryd i'w yfed.
14
Oherwydd nid un aelod yw'r corff, ond llawer.
15
Os dywed y troed, "Gan nad wyf yn llaw, nid wyf yn rhan o'r corff", nid yw am hynny heb fod yn rhan o'r corff.
16
Ac os dywed y glust, "Gan nad wyf yn llygad, nid wyf yn rhan o'r corff", nid yw am hynny heb fod yn rhan o'r corff.
17
Petai'r holl gorff yn llygad, lle byddai'r clyw? Petai'r cwbl yn glyw, lle byddai'r arogli?
18
Ond fel y mae, gosododd Duw yr aelodau, bob un ohonynt, yn y corff fel y gwelodd ef yn dda.
19
Pe baent i gyd yn un aelod, lle byddai'r corff?
20
Ond fel y mae, llawer yw'r aelodau, ond un yw'r corff.
21
Ni all y llygad ddweud wrth y llaw, "Nid oes arnaf dy angen di", na'r pen chwaith wrth y traed, "Nid oes arnaf eich angen chwi."
22
I'r gwrthwyneb yn hollol, y mae'r aelodau hynny o'r corff sy'n ymddangos yn wannaf yn angenrheidiol;
23
a'r rhai sydd leiaf eu parch yn ein tyb ni, yr ydym yn amgylchu'r rheini pharch neilltuol; ac y mae ein haelodau anweddaidd yn cael gwedduster neilltuol.
24
Ond nid oes ar ein haelodau gweddus angen hynny. Gosododd Duw y corff wrth ei gilydd, gan roi parchusrwydd neilltuol i'r aelod oedd heb ddim parch,
25
rhag bod ymraniad yn y corff, ac er mwyn i'r holl aelodau gymryd yr un gofal dros ei gilydd.
26
Os bydd un aelod yn dioddef, y mae pob aelod yn cyd-ddioddef; neu os bydd un aelod yn cael ei anrhydeddu, y mae pob aelod yn cydlawenhau.
27
Yn awr, chwi yw corff Crist, ac y mae i bob un ohonoch ei le fel aelod.
28
Ymhlith y rhain y mae Duw wedi gosod yn yr eglwys, yn gyntaf apostolion, yn ail broffwydi, yn drydydd athrawon, yna cyflawni gwyrthiau, yna doniau iachu, cynorthwyo, cyfarwyddo, llefaru thafodau.
29
A yw pawb yn apostol? A yw pawb yn broffwyd? A yw pawb yn athro? A yw pawb yn cyflawni gwyrthiau?
30
A oes gan bawb ddoniau iachu? A yw pawb yn llefaru thafodau? A yw pawb yn dehongli?
31
Ond rhowch eich bryd ar y doniau gorau. Ac yr wyf am ddangos i chwi ffordd ragorach fyth.
← Chapter 11
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 13 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16