bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
1 Corinthians 14
1 Corinthians 14
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 13
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 15 →
1
Dilynwch gariad yn daer, a rhowch eich bryd ar y doniau ysbrydol, yn enwedig dawn proffwydo.
2
Oherwydd y mae'r sawl sydd yn llefaru thafodau yn llefaru, nid wrth bobl, ond wrth Dduw. Nid oes unrhyw un yn ei ddeall; llefaru pethau dirgel y mae, yn yr Ysbryd.
3
Ond y mae'r sawl sy'n proffwydo yn llefaru wrth bobl bethau sy'n eu hadeiladu a'u calonogi a'u cysuro.
4
Y mae'r sawl sy'n llefaru thafodau yn ei adeiladu ei hun, ond y mae'r sawl sy'n proffwydo yn adeiladu'r eglwys.
5
Mi hoffwn ichwi i gyd lefaru thafodau, ond yn fwy byth ichwi broffwydo. Y mae'r sawl sy'n proffwydo yn well na'r sawl sy'n llefaru thafodau, os na all ddehongli'r hyn y mae'n ei ddweud, er mwyn i'r eglwys gael adeiladaeth.
6
Yn awr, gyfeillion, os dof atoch gan lefaru thafodau, pa les a wnaf i chwi, os na ddywedaf rywbeth wrthych sy'n ddatguddiad, neu'n wybodaeth, neu'n broffwydoliaeth, neu'n hyfforddiant?
7
Ystyriwch offerynnau difywyd sy'n cynhyrchu su373?n, fel ffliwt neu delyn; os na seiniant eu nodau eglur eu hunain, sut y mae gwybod beth sy'n cael ei ganu arnynt?
8
Ac os yw'r utgorn yn rhoi nodyn aneglur, pwy sy'n mynd i'w arfogi ei hun i frwydr?
9
Felly chwithau: wrth lefaru thafodau, os na thraethwch air y gellir ei ddeall, pa fodd y gall neb wybod beth a ddywedir? Malu awyr y byddwch.
10
Mor niferus yw'r mathau o ieithoedd sydd yn y byd! Ac nid oes unman heb iaith.
11
Ond os nad wyf yn deall ystyr y siaradwr, byddaf yn farbariad aflafar iddo, ac yntau i minnau.
12
Gan eich bod chwi, felly, a'ch bryd ar ddoniau'r Ysbryd, ceisiwch gyflawnder o'r rhai sy'n adeiladu'r eglwys.
13
Felly, bydded i'r sawl sy'n llefaru thafodau weddo am y gallu i ddehongli.
14
Oherwydd os byddaf yn gweddo thafodau, y mae fy ysbryd yn gweddo, ond y mae fy meddwl yn ddiffrwyth.
15
Beth a wnaf, felly? Mi weddaf 'm hysbryd, ond mi weddaf 'm deall hefyd. Mi ganaf 'r ysbryd, ond mi ganaf 'r deall hefyd.
16
Onid e, os byddi'n moliannu 'r ysbryd, pa fodd y gall rhywun sydd heb ei hyfforddi ddweud yr "Amen" i'r diolch yr wyt yn ei roi, os nad yw'n deall beth yr wyt yn ei ddweud?
17
Yr wyt ti'n wir yn rhoi'r diolch yn ddigon da, ond nid yw'r llall yn cael ei adeiladu.
18
Diolch i Dduw, yr wyf fi'n llefaru thafodau yn fwy na chwi i gyd.
19
Ond yn yr eglwys, y mae'n well gennyf lefaru pum gair 'm deall, er mwyn hyfforddi eraill, na deng mil o eiriau thafodau.
20
Fy nghyfeillion, peidiwch bod yn blantos o ran deall; byddwch yn fabanod o ran drygioni, ond yn aeddfed o ran deall.
21
Y mae'n ysgrifenedig yn y Gyfraith: "'Trwy rai o dafodau dieithr, ac gwefusau estroniaid, y llefaraf wrth y bobl hyn, ac eto ni wrandawant arnaf,' medd yr Arglwydd."
22
Arwyddion yw tafodau, felly, nid i gredinwyr, ond i anghredinwyr; ond proffwydoliaeth, nid i anghredinwyr y mae, ond i gredinwyr.
23
Felly, pan ddaw holl aelodau'r eglwys ynghyd i'r un lle, os bydd pawb yn llefaru thafodau, a phobl heb eu hyfforddi, neu anghredinwyr, yn dod i mewn, oni ddywedant eich bod yn wallgof?
24
Ond os bydd pawb yn proffwydo, ac anghredadun neu rywun heb ei hyfforddi yn dod i mewn, fe'i hargyhoeddir gan bawb, a'i ddwyn i farn gan bawb;
25
daw pethau cuddiedig ei galon i'r amlwg, ac felly bydd yn syrthio ar ei wyneb ac yn addoli Duw a dweud, "Y mae Duw yn wir yn eich plith."
26
Beth amdani, ynteu, gyfeillion? Pan fyddwch yn ymgynnull, bydd gan bob un ei salm, ei air o hyfforddiant, ei ddatguddiad, ei lefaru thafodau, ei ddehongliad. Gadewch i bob peth fod er adeiladaeth.
27
Os oes rhywun yn llefaru thafodau, bydded i ddau yn unig, neu dri ar y mwyaf, lefaru, a phob un yn ei dro; a bydded i rywun ddehongli.
28
Os nad oes dehonglydd yn bresennol, bydded y llefarydd yn ddistaw yn y gynulleidfa, a llefaru wrtho'i hun ac wrth Dduw.
29
Dim ond dau neu dri o'r proffwydi sydd i lefaru, a'r lleill i bwyso'r neges.
30
Os daw datguddiad i rywun arall sy'n eistedd gerllaw, bydded i'r proffwyd sy'n llefaru dewi.
31
Oherwydd gall pawb ohonoch broffwydo, bob yn un, er mwyn i bawb gael addysg a chysur.
32
Ac y mae ysbryd pob proffwyd yn ddarostyngedig i'r proffwyd.
33
Nid Duw anhrefn yw Duw, ond Duw heddwch. Yn l y drefn ym mhob un o eglwysi'r saint,
34
dylai'r gwragedd fod yn ddistaw yn yr eglwysi, oherwydd ni chaniateir iddynt lefaru. Dylent fod yn ddarostyngedig, fel y mae'r Gyfraith hefyd yn dweud.
35
Os ydynt am gael gwybod rhywbeth, dylent ofyn i'w gwu375?r eu hunain gartref, oherwydd peth anweddus yw i wraig lefaru yn y gynulleidfa.
36
Ai oddi wrthych chwi y cychwynnodd gair Duw? Neu ai atoch chwi yn unig y cyrhaeddodd?
37
Os oes rhywun ohonoch yn tybio ei fod yn broffwyd, neu'n rhywun ysbrydol, dylai gydnabod mai gorchymyn yr Arglwydd yw'r hyn yr wyf yn ei ysgrifennu atoch.
38
Os oes rhai nad ydynt yn cydnabod hynny, ni chnt hwythau eu cydnabod.
39
Felly, fy nghyfeillion, rhowch eich bryd ar broffwydo, a pheidiwch gwahardd llefaru thafodau.
40
Dylid gwneud popeth yn weddus ac mewn trefn.
← Chapter 13
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 15 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16