bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
1 Peter 1
1 Peter 1
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 2 →
1
Pedr, apostol Iesu Grist, at y dieithriaid sydd ar wasgar yn Pontus, Galatia, Capadocia, Asia a Bithynia,
2
sy'n etholedigion yn l rhagwybodaeth Duw y Tad, trwy waith sancteiddiol yr Ysbryd, i fod yn ufudd i Iesu Grist ac i'w taenellu 'i waed ef. Gras a thangnefedd a amlhaer i chwi!
3
Bendigedig fyddo Duw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist! O'i fawr drugaredd, fe barodd ef ein geni ni o'r newydd i obaith bywiol trwy atgyfodiad Iesu Grist oddi wrth y meirw,
4
i etifeddiaeth na ellir na'i difrodi, na'i difwyno, na'i difa. Saif hon ynghadw yn y nefoedd i chwi,
5
chwi sydd trwy ffydd dan warchod gallu Duw hyd nes y daw iachawdwriaeth, yr iachawdwriaeth sydd yn barod i'w datguddio yn yr amser diwethaf.
6
Yn wyneb hyn yr ydych yn gorfoleddu, er eich bod, fe ddichon, yn awr yn profi blinder dros dro dan amrywiol brofedigaethau.
7
Y mae hyn wedi digwydd er mwyn i ddilysrwydd eich ffydd chwi, sy'n fwy gwerthfawr na'r aur sy'n darfod ac y mae hwnnw'n cael ei brofi trwy dn gael ei amlygu er mawl a gogoniant ac anrhydedd pan ddatguddir Iesu Grist.
8
Yr ydych yn ei garu ef, er na welsoch mohono; ac am eich bod yn awr yn credu ynddo heb ei weld, yr ydych yn gorfoleddu llawenydd anhraethadwy a gogoneddus
9
wrth ichwi fedi ffrwyth eich ffydd, sef iachawdwriaeth eich eneidiau.
10
Iachawdwriaeth yw hon y bu ymofyn ac ymorol dyfal amdani gan y proffwydi a broffwydodd am y gras oedd i ddod i chwi.
11
Holi yr oeddent at ba amser neu amgylchiadau yr oedd Ysbryd Crist o'u mewn yn cyfeirio, wrth dystiolaethu ymlaen llaw i'r dioddefiadau oedd i ddod i ran Crist, ac i'w canlyniadau gogoneddus.
12
Datguddiwyd i'r proffwydi hyn nad arnynt eu hunain ond arnoch chwi yr oeddent yn gweini wrth sn am y pethau sydd yn awr wedi eu cyhoeddi i chwi gan y rhai a bregethodd yr Efengyl i chwi drwy nerth yr Ysbryd Gln, a anfonwyd o'r nef. Pethau yw'r rhain y mae angylion yn chwenychu edrych arnynt.
13
Gan hynny, rhowch fin ar eich meddwl, ymddisgyblwch, a gosodwch eich gobaith yn gyfan gwbl ar y gras sy'n cael ei ddwyn atoch pan ddatguddir Iesu Grist.
14
Fel plant ufudd, peidiwch chydymffurfio 'r chwantau y buoch yn eu dilyn gynt yn eich anwybodaeth;
15
eithr fel yr Un Sanctaidd a'ch galwodd chwi, byddwch chwithau yn sanctaidd yn eich holl ymarweddiad.
16
Oherwydd y mae'n ysgrifenedig, "Byddwch sanctaidd, oherwydd yr wyf fi yn sanctaidd."
17
Ac os fel Tad yr ydych yn galw ar yr hwn sydd yn barnu'n ddidderbynwyneb yn l gwaith pob un, ymddygwch mewn parchedig ofn dros amser eich alltudiaeth.
18
Gwyddoch nad phethau llygradwy, arian neu aur, y prynwyd ichwi ryddid oddi wrth yr ymarweddiad ofer a etifeddwyd gennych,
19
ond gwaed gwerthfawr Un oedd fel oen di-fai a di-nam, sef Crist.
20
Yr oedd Duw wedi ei ddewis cyn seilio'r byd, ac amlygwyd ef yn niwedd yr amserau er eich mwyn chwi
21
sydd drwyddo ef yn credu yn Nuw, yr hwn a'i cyfododd ef oddi wrth y meirw ac a roes iddo ogoniant, fel y byddai eich ffydd a'ch gobaith chwi yn Nuw.
22
Gan eich bod, trwy eich ufudd-dod i'r gwirionedd, wedi puro eich eneidiau nes ennyn brawdgarwch diragrith, carwch eich gilydd o galon bur yn angerddol.
23
Yr ydych wedi eich geni o'r newydd, nid o had llygradwy, ond anllygradwy, trwy air Duw, sydd yn fyw ac yn aros.
24
Oherwydd, yng ngeiriau'r Ysgrythur: "Y mae pob un meidrol fel glaswellt, a'i holl ogoniant fel blodeuyn y maes. Y mae'r glaswellt yn crino, a'r blodeuyn yn syrthio,
25
ond y mae gair yr Arglwydd yn aros am byth." A dyma'r gair a bregethwyd yn Efengyl i chwi.
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 2 →
All chapters:
1
2
3
4
5