bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
1 Peter 5
1 Peter 5
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
1
Yr wyf yn apelio, yn awr, at yr henuriaid yn eich plith. Yr wyf finnau'n gyd-henuriad chwi, ac yn dyst o ddioddefiadau Crist, ac yn un sydd hefyd yn gyfrannog o'r gogoniant sydd ar gael ei ddatguddio.
2
Bugeiliwch braidd Duw sydd yn eich gofal, nid dan orfod, ond o'ch gwirfodd yn l ffordd Duw; nid er mwyn elw anonest, ond o eiddgarwch,
3
nid fel rhai sy'n tra-arglwyddiaethu ar y rhai a osodwyd dan eu gofal, ond gan fod yn esiamplau i'r praidd.
4
A phan ymddengys y Pen Bugail, fe gewch eich coroni thorch gogoniant, nad yw byth yn gwywo.
5
Yn yr un modd, chwi wu375?r ifainc, ymostyngwch i'r henuriaid. A phawb ohonoch, gwisgwch amdanoch ostyngeiddrwydd yng ngwasanaeth eich gilydd, oherwydd, fel y dywed yr Ysgrythur: "Y mae Duw'n gwrthwynebu'r beilchion, ond i'r gostyngedig y mae'n rhoi gras."
6
Ymddarostyngwch, gan hynny, dan law gadarn Duw, fel y bydd iddo ef eich dyrchafu pan ddaw'r amser.
7
Bwriwch eich holl bryder arno ef, oherwydd y mae gofal ganddo amdanoch.
8
Ymddisgyblwch a byddwch effro. Y mae eich gwrthwynebydd, y diafol, yn prowla o gwmpas fel llew yn rhuo, gan chwilio am rywun i'w lyncu.
9
Gwrthsafwch ef yn gadarn mewn ffydd, gan wybod fod eich cyd-Gristionogion yn y byd yn profi'r un math o ddioddefiadau.
10
Ond wedi ichwi ddioddef am ychydig, bydd Duw pob gras, yr hwn a'ch galwodd i'w dragwyddol ogoniant yng Nghrist Iesu, yn eich gwneud yn gymwys, yn gadarn, yn gryf ac yn ddiysgog.
11
Iddo ef y perthyn y gallu am byth. Amen.
12
Yr wyf yn ysgrifennu'r ychydig hyn trwy law Silfanus, brawd y gellir, yn l fy nghyfrif i, ymddiried ynddo. Fy mwriad yw eich calonogi, a thystio mai dyma wir ras Duw. Safwch yn ddi-sigl ynddo.
13
Y mae'r hon ym Mabilon sydd yn gydetholedig chwi yn eich cyfarch, a Marc, fy mab.
14
Cyfarchwch eich gilydd chusan cariad. Tangnefedd i chwi oll sydd yng Nghrist!
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
All chapters:
1
2
3
4
5