bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
1 Thessalonians 1
1 Thessalonians 1
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 2 →
1
Paul a Silfanus a Timotheus at eglwys y Thesaloniaid yn Nuw y Tad a'r Arglwydd Iesu Grist. Gras a thangnefedd i chwi.
2
Yr ydym yn diolch i Dduw bob amser amdanoch chwi oll, gan eich galw i gof yn ein gweddau,
3
a chofio'n ddi-baid gerbron ein Duw a'n Tad am weithgarwch eich ffydd, a llafur eich cariad, a'r dyfalbarhad sy'n tarddu o'ch gobaith yn ein Harglwydd Iesu Grist.
4
Gwyddom, gyfeillion annwyl gan Dduw, eich bod chwi wedi eich ethol,
5
oherwydd nid ar air yn unig y daeth atoch yr Efengyl yr ydym ni yn ei phregethu, ond mewn nerth hefyd, ac yn yr Ysbryd Gln, a chydag argyhoeddiad mawr. Fe wyddoch chwithau hefyd pa fath rai oeddem ni yn eich plith, ac er eich mwyn chwi.
6
Daethoch chwi yn efelychwyr ohonom ni ac o'r Arglwydd, gan ichwi dderbyn y gair mewn gorthrymder mawr, ynghyd llawenydd yr Ysbryd Gln.
7
Felly daethoch yn esiampl i bawb o'r credinwyr ym Macedonia ac yn Achaia.
8
Canys oddi wrthych chwi yr atseiniodd gair yr Arglwydd, ac nid ym Macedonia ac Achaia yn unig; y mae eich ffydd chwi yn Nuw wedi mynd ar led ym mhob man, fel nad oes angen i ni ddweud dim.
9
Oherwydd y mae pobl ohonynt eu hunain yn sn amdanom, y fath dderbyniad a gawsom i'ch plith, a'r modd y troesoch at Dduw oddi wrth eilunod, i wasanaethu'r gwir Dduw byw,
10
ac i ddisgwyl ei Fab o'r nefoedd, y Mab a gyfododd ef oddi wrth y meirw, sef Iesu, yr un sydd yn ein gwaredu oddi wrth y digofaint sydd i ddod.
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 2 →
All chapters:
1
2
3
4
5