bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
1 Thessalonians 5
1 Thessalonians 5
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
1
Ynglu375?n 'r amseroedd a'r prydiau, gyfeillion, nid oes arnoch angen i neb ysgrifennu atoch.
2
Oherwydd yr ydych yn gwybod yn iawn mai fel lleidr yn y nos y daw Dydd yr Arglwydd.
3
Pan fydd pobl yn dweud, "Dyma dangnefedd a diogelwch", dyna'r pryd y daw dinistr disymwth ar eu gwarthaf fel gwewyr esgor ar wraig feichiog, ac ni fydd dim dianc iddynt.
4
Ond nid ydych chwi, gyfeillion, mewn tywyllwch, i'r Dydd eich goddiweddyd fel lleidr;
5
pobl y goleuni, pobl y dydd, ydych chwi oll. Nid ydym yn perthyn i'r nos nac i'r tywyllwch.
6
Am hynny, rhaid inni beidio chysgu, fel y rhelyw, ond bod yn effro a sobr.
7
Y rhai sydd yn cysgu, yn y nos y maent yn cysgu, a'r rhai sydd yn meddwi, yn y nos y maent yn meddwi.
8
Ond gan ein bod ni'n perthyn i'r dydd, gadewch inni fod yn sobr, gan wisgo amdanom ffydd a chariad yn ddwyfronneg, a gobaith iachawdwriaeth yn helm.
9
Oherwydd nid i ddigofaint y penododd Duw ni, ond i feddu iachawdwriaeth drwy ein Harglwydd Iesu Grist,
10
yr hwn a fu farw drosom, er mwyn inni gael byw gydag ef, prun bynnag ai yn effro ai yn cysgu y byddwn.
11
Am hynny, calonogwch eich gilydd, ac adeiladwch bob un ei gilydd fel, yn wir, yr ydych yn gwneud.
12
Yr ydym yn gofyn ichwi, gyfeillion, barchu'r rhai sydd yn llafurio yn eich plith, yn arweinwyr arnoch yn yr Arglwydd, ac yn eich cynghori,
13
a synio'n uchel iawn amdanynt mewn cariad, ar gyfrif eu gwaith. Byddwch yn heddychlon yn eich plith eich hunain.
14
Ac yr ydym yn eich annog, gyfeillion, ceryddwch y segurwyr, cysurwch y gwangalon, cynorthwywch y rhai eiddil, byddwch yn amyneddgar wrth bawb.
15
Gwyliwch na fydd neb yn talu drwg am ddrwg i neb, ond ceisiwch bob amser les eich gilydd a lles pawb.
16
Llawenhewch bob amser.
17
Gweddwch yn ddi-baid.
18
Ym mhob dim rhowch ddiolch, oherwydd hyn yw ewyllys Duw yng Nghrist Iesu i chwi.
19
Peidiwch diffodd yr Ysbryd;
20
peidiwch dirmygu proffwyd-oliaethau.
21
Ond rhowch brawf ar bob peth, a glynwch wrth yr hyn sydd dda.
22
Ymgadwch rhag pob math o ddrygioni.
23
Bydded i Dduw'r tangnefedd ei hun eich sancteiddio chwi yn gyfan gwbl, a chadw eich ysbryd a'ch enaid a'ch corff yn gwbl iach a di-fai hyd ddyfodiad ein Harglwydd Iesu Grist!
24
Y mae'r hwn sy'n eich galw yn ffyddlon, ac fe gyflawna ef hyn.
25
Gyfeillion, gweddwch drosom ninnau.
26
Cyfarchwch y cyfeillion i gyd chusan sanctaidd.
27
Yn enw'r Arglwydd, parwch ddarllen y llythyr hwn i'r holl gynulleidfa.
28
Gras ein Harglwydd Iesu Grist fyddo gyda chwi!
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
All chapters:
1
2
3
4
5