bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
2 Thessalonians 1
2 Thessalonians 1
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 2 →
1
Paul a Silfanus a Timotheus at eglwys y Thesaloniaid yn Nuw ein Tad a'r Arglwydd Iesu Grist.
2
Gras a thangnefedd i chwi oddi wrth Dduw ein Tad a'r Arglwydd Iesu Grist.
3
Dylem ddiolch i Dduw bob amser amdanoch chwi, gyfeillion, fel y mae'n weddus, am fod eich ffydd yn cynyddu'n ddirfawr, a chariad pob un ohonoch tuag at ei gilydd yn dyfnhau,
4
nes ein bod ninnau yn ymffrostio ynoch ymysg eglwysi Duw, o achos eich dyfalbarhad a'ch ffydd dan yr holl erledigaethau a'r gorthrymderau yr ydych yn eu dioddef.
5
Y mae hyn yn brawf o farn gyfiawn Duw, fel y cewch eich cyfrif yn deilwng o deyrnas Dduw, y deyrnas, yn wir, yr ydych yn dioddef er ei mwyn.
6
Cyfiawn ar ran Duw, yn sicr, yw talu gorthrymder yn l i'r rhai sydd yn eich gorthrymu chwi,
7
a rhoi esmwythd i chwi sy'n cael eich gorthrymu, ac i ninnau hefyd, pan ddatguddir yr Arglwydd Iesu o'r nef gyda'i angylion nerthol.
8
Fe ddaw mewn fflamau tn, gan ddial ar y rhai nad ydynt yn adnabod Duw a'r rhai nad ydynt yn ufuddhau i Efengyl ein Harglwydd Iesu.
9
Dyma'r rhai fydd yn dioddef dinistr tragwyddol yn gosb, wedi eu cau allan o bresenoldeb yr Arglwydd ac o ogoniant ei nerth ef,
10
pan ddaw, yn y Dydd hwnnw, i'w ogoneddu gan ei saint ac i fod yn destun rhyfeddod gan bawb a gredodd; oherwydd y mae'r dystiolaeth a gyhoeddwyd gennym ni i chwi wedi ei chredu.
11
I'r diben hwn hefyd yr ydym bob amser yn gweddo drosoch chwi, ar i'n Duw ni eich cyfrif yn deilwng o'i alwad, a chyflawni trwy ei nerth bob awydd am ddaioni a phob gweithred o ffydd,
12
fel y bydd enw ein Harglwydd Iesu yn cael ei ogoneddu ynoch chwi, a chwithau ynddo yntau, yn l gras ein Duw a'r Arglwydd Iesu Grist.
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 2 →
All chapters:
1
2
3