bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
2 Thessalonians 3
2 Thessalonians 3
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
1
Bellach, gyfeillion, gweddwch drosom ni, ar i air yr Arglwydd fynd rhagddo a chael ei ogoneddu, fel y cafodd yn eich plith chwi,
2
ac ar i ni gael ein gwaredu oddi wrth bobl groes a drwg; oherwydd nid yw pawb yn meddu ar ffydd.
3
Ond y mae'r Arglwydd yn ffyddlon, ac fe'ch cadarnha chwi a'ch gwarchod rhag yr Un drwg.
4
Y mae gennym hyder yn yr Arglwydd amdanoch, eich bod yn gwneud y pethau yr ydym yn eu gorchymyn, ac y byddwch yn dal i'w gwneud.
5
Bydded i'r Arglwydd gyfeirio eich calonnau at gariad Duw ac at amynedd Crist!
6
Yr ydym yn gorchymyn i chwi, gyfeillion, yn enw ein Harglwydd Iesu Grist, gadw draw oddi wrth bob crediniwr sy'n segura yn lle byw yn l y traddodiad a dderbyniodd gennym ni.
7
Gwyddoch yn iawn fel y dylech ein hefelychu ni, oherwydd nid segura y buom ni yn eich plith,
8
na bwyta bara neb am ddim, ond yn hytrach gweithio nos a dydd mewn llafur a lludded, rhag bod yn faich ar neb ohonoch.
9
Nid nad oes gennym hawl arnoch, ond gwnaethom hyn er mwyn ein rhoi ein hunain yn esiampl i chwi i'w hefelychu.
10
Ac yn wir, pan oeddem yn eich plith, rhoesom y gorchymyn hwn i chwi: os oes rhywun sy'n anfodlon gweithio, peidied bwyta chwaith.
11
Oherwydd yr ydym yn clywed bod rhai yn eich mysg yn segura, yn busnesa ym mhobman heb weithio yn unman.
12
I'r cyfryw yr ydym yn gorchymyn, ac yn apelio yn yr Arglwydd Iesu Grist, iddynt weithio'n dawel ac ennill eu bywoliaeth eu hunain.
13
A pheidiwch chwithau, gyfeillion, blino ar wneud daioni.
14
Os bydd rhywrai'n gwrthod ufuddhau i'n gair ni yn y llythyr hwn, cadwch eich llygad arnynt, a pheidiwch chymdeithasu hwy, er mwyn codi cywilydd arnynt.
15
Eto peidiwch 'u hystyried fel gelynion, ond rhybuddiwch hwy fel cyfeillion.
16
Bydded i Arglwydd tangnefedd ei hun roi tangnefedd ichwi bob amser ym mhob modd! Bydded yr Arglwydd gyda chwi oll!
17
Y mae'r cyfarchiad yn fy llaw i, Paul. Hwn yw'r arwydd ym mhob llythyr; fel hyn y byddaf yn ysgrifennu.
18
Gras ein Harglwydd Iesu Grist fyddo gyda chwi oll!
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
All chapters:
1
2
3