bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
2 Timothy 2
2 Timothy 2
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 3 →
1
Felly ymnertha di, fy mab, yn y gras sydd yng Nghrist Iesu.
2
Cymer y geiriau a glywaist gennyf fi yng nghwmni tystion lawer, a throsglwydda hwy i ofal pobl ffyddlon a fydd yn abl i hyfforddi eraill hefyd.
3
Cymer dy gyfran o ddioddefaint, fel milwr da i Grist Iesu.
4
Nid yw milwr sydd ar ymgyrch yn ymdrafferthu gofalon bywyd bob dydd, gan fod ei holl fryd ar ennill cymeradwyaeth ei gadfridog.
5
Ac os yw rhywun yn cystadlu mewn mabolgampau, ni all ennill y dorch heb gystadlu yn l y rheolau.
6
Y ffermwr sy'n llafurio sydd 'r hawl gyntaf ar y cnwd.
7
Ystyria beth yr wyf yn ei ddweud, oherwydd fe rydd yr Arglwydd iti ddealltwriaeth ym mhob peth.
8
Cofia Iesu Grist: ei gyfodi oddi wrth y meirw, ei eni o linach Dafydd, yn l yr Efengyl yr wyf fi yn ei phregethu.
9
Yng ngwasanaeth yr Efengyl hon yr wyf yn dioddef hyd at garchar, fel rhyw droseddwr, ond nid oes carchar i ddal gair Duw.
10
Felly, yr wyf yn goddef y cyfan er mwyn ei etholedigion, iddynt hwythau hefyd gael yr iachawdwriaeth sydd yng Nghrist Iesu, ynghyd gogoniant tragwyddol.
11
Dyma air i'w gredu: "Os buom farw gydag ef, byddwn fyw hefyd gydag ef;
12
os dyfalbarhawn, cawn deyrnasu hefyd gydag ef; os gwadwn ef, bydd ef hefyd yn ein gwadu ninnau;
13
os ydym yn anffyddlon, y mae ef yn aros yn ffyddlon, oherwydd ni all ef ei wadu ei hun."
14
Dwg ar gof i bobl y pethau hyn, gan eu rhybuddio yng ngu373?ydd Duw i beidio dadlau am eiriau, peth cwbl anfuddiol, ac andwyol hefyd i'r rhai sy'n gwrando.
15
Gwna dy orau i'th wneud dy hun yn gymeradwy gan Dduw, fel gweithiwr heb achos i gywilyddio am ei waith, yn ddiwyro wrth gyflwyno gair y gwirionedd.
16
Gochel siarad gwag rhai bydol, oherwydd agor y ffordd y byddant i fwy o annuwioldeb,
17
a'u hymadrodd yn ymledu fel cancr. Pobl felly yw Hymenaeus a Philetus;
18
y maent wedi gwyro oddi wrth y gwirionedd, gan honni bod ein hatgyfodiad eisoes wedi digwydd, ac y maent yn tanseilio ffydd rhai pobl.
19
Ond dal i sefyll y mae'r sylfaen gadarn a osododd Duw, a'r sl sydd arni yw: "Y mae'r Arglwydd yn adnabod y rhai sy'n eiddo iddo", a "Pob un sy'n enwi enw'r Arglwydd, cefned ar ddrygioni".
20
Mewn tu375? mawr y mae nid yn unig lestri aur ac arian ond hefyd lestri pren a chlai, rhai i gael parch ac eraill amarch.
21
Os yw rhywun yn ei lanhau ei hun oddi wrth y pethau drygionus hyn, yna llestr parch fydd ef, cysegredig, defnyddiol i'r Meistr, ac addas i bob gweithred dda.
22
Ffo oddi wrth nwydau ieuenctid, a chanlyn gyfiawnder a ffydd a chariad a heddwch, yng nghwmni'r rhai sy'n galw ar yr Arglwydd chalon bur.
23
Paid gwneud dim chwestiynau ffl a di-ddysg; fe wyddost mai codi cwerylon a wnnt.
24
Ni ddylai gwas yr Arglwydd fod yn gwerylgar, ond yn dirion tuag at bawb, yn athro da, yn ymarhous,
25
yn addfwyn wrth ddisgyblu'r rhai sy'n tynnu'n groes. Oherwydd pwy a u373?yr na fydd Duw ryw ddydd yn rhoi iddynt edifeirwch i ddod i ganfod y gwirionedd,
26
ac na ddnt i'w pwyll a dianc o fagl y diafol, yr un a'u rhwydodd a'u caethiwo i'w ewyllys?
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 3 →
All chapters:
1
2
3
4