bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
2 Timothy 4
2 Timothy 4
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
1
Yng ngu373?ydd Duw a Christ Iesu, yr hwn sydd i farnu'r byw a'r meirw, yr wyf yn dy rybuddio ar gyfrif ei ymddangosiad a'i deyrnas ef:
2
pregetha'r gair; bydd yn barod bob amser, boed yn gyfleus neu'n anghyfleus; argyhoedda; cerydda; calonoga; a hyn ag amynedd diball wrth hyfforddi.
3
Oherwydd fe ddaw amser pan na fydd pobl yn goddef athrawiaeth iach ond yn dilyn eu chwantau eu hunain, ac yn crynhoi o'u cwmpas liaws o athrawon i oglais eu clustiau,
4
gan droi oddi wrth y gwirionedd i wrando ar chwedlau.
5
Ond yn hyn oll cadw di ddisgyblaeth arnat dy hun: goddef galedi; gwna waith efengylwr; cyflawna holl ofynion dy weinidogaeth.
6
Oherwydd y mae fy mywyd i eisoes yn cael ei dywallt mewn aberth, ac y mae amser fy ymadawiad wedi dod.
7
Yr wyf wedi ymdrechu'r ymdrech lew, yr wyf wedi rhedeg yr yrfa i'r pen, yr wyf wedi cadw'r ffydd.
8
Bellach y mae torch cyfiawnder ar gadw i mi; a bydd yr Arglwydd, y Barnwr cyfiawn, yn ei chyflwyno hi imi ar y Dydd hwnnw, ac nid i mi yn unig ond i bawb fydd wedi rhoi eu serch ar ei ymddangosiad ef.
9
Gwna dy orau i ddod ataf yn fuan,
10
oherwydd rhoddodd Demas ei serch ar y byd hwn, a'm gadael. Aeth ef i Thesalonica, a Crescens i Galatia, a Titus i Dalmatia.
11
Luc yn unig sydd gyda mi. Galw am Marc, a thyrd ag ef gyda thi, gan ei fod o gymorth mawr i mi yn fy ngweinidogaeth.
12
Anfonais Tychicus i Effesus.
13
Pan fyddi'n dod, tyrd 'r clogyn a adewais ar l gyda Carpus yn Troas, a'r llyfrau hefyd, yn arbennig y memrynau.
14
Gwnaeth Alexander, y gof copr, ddrwg mawr imi. Fe dl yr Arglwydd iddo yn l ei weithredoedd.
15
Bydd dithau ar dy wyliadwriaeth rhagddo, oherwydd y mae wedi gwrthwynebu ein cenadwri ni i'r eithaf.
16
Yn y gwrandawiad cyntaf o'm hamddiffyniad, ni safodd neb gyda mi; aeth pawb a'm gadael; peidied Duw chyfrif hyn yn eu herbyn.
17
Ond safodd yr Arglwydd gyda mi, a rhoddodd nerth imi, er mwyn, trwof fi, i'r pregethu gael ei gyflawni ac i'r holl Genhedloedd gael ei glywed; a chefais fy ngwaredu o enau'r llew.
18
A bydd yr Arglwydd eto'n fy ngwaredu i rhag pob cam, a'm dwyn yn ddiogel i'w deyrnas nefol. Iddo ef y byddo'r gogoniant byth bythoedd! Amen.
19
Rho fy nghyfarchion i Prisca ac Acwila, a theulu Onesifforus.
20
Arhosodd Erastus yng Nghorinth, a gadewais Troffimus yn glaf yn Miletus.
21
Gwna dy orau i ddod cyn y gaeaf. Y mae Eubwlus a Pwdens a Linus a Clawdia, a'r cyfeillion oll, yn dy gyfarch.
22
Yr Arglwydd fyddo gyda'th ysbryd di! Gras fyddo gyda chwi!
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
All chapters:
1
2
3
4