bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Ephesians 3
Ephesians 3
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 4 →
1
Oherwydd hyn, yr wyf fi, Paul, carcharor Crist Iesu er eich mwyn chwi'r Cenhedloedd, yn offrymu fy ngweddi.
2
Y mae'n rhaid eich bod wedi clywed am gynllun gras Duw, y gras sydd wedi ei roi i mi er eich lles chwi:
3
sef i'r dirgelwch gael ei hysbysu i mi trwy ddatguddiad. Yr wyf eisoes wedi ysgrifennu'n fyr am hyn,
4
ac o'i ddarllen gallwch ddeall fy nirnadaeth o ddirgelwch Crist.
5
Yn y cenedlaethau gynt, ni chafodd y dirgelwch hwn mo'i hysbysu i blant dynion, fel y mae yn awr wedi ei ddatguddio gan Ysbryd Duw i'w apostolion sanctaidd a'i broffwydi.
6
Dyma'r dirgelwch: bod y Cenhedloedd, ynghyd 'r Iddewon, yn gydetifeddion, yn gydaelodau o'r corff, ac yn gydgyfranogion o'r addewid yng Nghrist Iesu trwy'r Efengyl.
7
Dyma'r Efengyl y deuthum i yn weinidog iddi yn l rhodd gras Duw, a roddwyd i mi trwy weithrediad ei allu ef.
8
I mi, y llai na'r lleiaf o'r holl saint, y rhoddwyd y rhodd raslon hon, i bregethu i'r Cenhedloedd anchwiliadwy olud Crist,
9
ac i ddwyn i'r golau gynllun y dirgelwch a fu'n guddiedig ers oesoedd yn Nuw, Creawdwr pob peth,
10
er mwyn i ysblander amryfal ddoethineb Duw gael ei hysbysu yn awr, trwy'r eglwys, i'r tywysogaethau a'r awdurdodau yn y nefolion leoedd.
11
Y mae hyn yn unol 'r arfaeth dragwyddol a gyflawnodd yng Nghrist Iesu ein Harglwydd.
12
Ynddo ef, a thrwy ffydd ynddo, yr ydym yn cael dod at Dduw yn eofn a hyderus.
13
Yr wyf yn erfyn, felly, ar ichwi beidio digalonni o achos fy nioddefiadau drosoch; hwy, yn wir, yw eich gogoniant chwi.
14
Oherwydd hyn yr wyf yn plygu fy ngliniau gerbron y Tad,
15
yr hwn y mae pob teulu yn y nefoedd ac ar y ddaear yn cymryd ei enw oddi wrtho,
16
ac yn gweddo ar iddo ganiatu i chwi, yn l cyfoeth ei ogoniant, gryfder a nerth mewnol trwy'r Ysbryd,
17
ac ar i Grist breswylio yn eich calonnau drwy ffydd.
18
Boed i chwi, sydd chariad yn wreiddyn a sylfaen eich bywyd, gael eich galluogi i amgyffred ynghyd 'r holl saint beth yw lled a hyd ac uchder a dyfnder cariad Crist,
19
a gwybod am y cariad hwnnw, er ei fod uwchlaw gwybodaeth. Felly dygir chwi i gyflawnder, hyd at holl gyflawnder Duw.
20
Iddo ef, sydd 'r gallu ganddo i wneud yn anhraethol well na dim y gallwn ni ei ddeisyfu na'i ddychmygu, trwy'r gallu sydd ar waith ynom ni,
21
iddo ef y bo'r gogoniant yn yr eglwys ac yng Nghrist Iesu, o genhedlaeth i genhedlaeth, byth bythoedd! Amen.
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 4 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6