bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Ephesians 6
Ephesians 6
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 5
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
1
Chwi blant, ufuddhewch i'ch rhieni yn yr Arglwydd, oherwydd hyn sydd iawn.
2
"Anrhydedda dy dad a'th fam" hwn yw'r gorchymyn cyntaf ac iddo addewid:
3
"er mwyn iti lwyddo a chael hir ddyddiau ar y ddaear."
4
Chwi dadau, peidiwch chythruddo'ch plant, ond eu meithrin yn nisgyblaeth a hyfforddiant yr Arglwydd.
5
Chwi gaethweision, ufuddhewch i'ch meistri daearol mewn ofn a dychryn, mewn unplygrwydd calon fel i Grist,
6
nid ag esgus o wasanaeth fel rhai sy'n ceisio plesio dynion, ond fel gweision Crist yn gwneud ewyllys Duw 'ch holl galon.
7
Rhowch wasanaeth ewyllysgar fel i'r Arglwydd, nid i ddynion,
8
oherwydd fe wyddoch y bydd pob un, boed gaeth neu rydd, yn derbyn tl gan yr Arglwydd am ba ddaioni bynnag a wna.
9
Chwi feistri, gwnewch yr un peth iddynt hwy, gan roi'r gorau i fygwth, oherwydd fe wyddoch fod eu Meistr hwy a chwithau yn y nefoedd, ac nad yw ef yn dangos ffafriaeth.
10
Yn olaf, ymgryfhewch yn yr Arglwydd ac yn nerth ei allu ef.
11
Gwisgwch amdanoch holl arfogaeth Duw, er mwyn ichwi fedru sefyll yn gadarn yn erbyn cynllwynion y diafol.
12
Nid meidrolion yr ydym yn yr afael, ond thywys-ogaethau ac awdurdodau, llywod-raethwyr tywyllwch y byd hwn, phwerau ysbrydol drygionus yn y nefolion leoedd.
13
Gan hynny, ymarfogwch holl arfogaeth Duw, er mwyn ichwi fedru gwrthsefyll yn y dydd drwg, ac wedi cyflawni pob peth, sefyll yn gadarn.
14
Safwch, ynteu, gwirionedd yn wregys am eich canol, a chyfiawnder yn arfwisg ar eich dwyfron,
15
a pharodrwydd i gyhoeddi Efengyl tangnefedd yn esgidiau am eich traed.
16
Heblaw hyn oll, ymarfogwch tharian ffydd; hon byddwch yn gallu diffodd holl saethau tanllyd yr Un drwg.
17
Derbyniwch helm iachawdwriaeth a chleddyf yr Ysbryd, sef gair Duw.
18
Ymrowch i weddi ac ymbil, gan weddo bob amser yn yr Ysbryd. I'r diben hwn, byddwch yn effro, gyda dyfalbarhad ym mhob math o ymbil dros y saint i gyd,
19
a gweddwch drosof finnau y bydd i Dduw roi i mi ymadrodd, ac agor fy ngenau, i hysbysu'n eofn ddirgelwch yr Efengyl.
20
Trosti hi yr wyf yn llysgennad mewn cadwynau. Ie, gweddwch ar i mi lefaru'n hy amdani, fel y dylwn lefaru.
21
Er mwyn i chwithau wybod fy hanes, a beth yr wyf yn ei wneud, fe gewch y cwbl gan Tychicus, y brawd annwyl a'r gweinidog ffyddlon yn yr Arglwydd.
22
Yr wyf yn ei anfon atoch yn unswydd ichwi gael gwybod am ein hynt, ac er mwyn iddo ef eich calonogi.
23
Tangnefedd i'r cyfeillion, a chariad ynghyd ffydd oddi wrth Dduw Dad a'r Arglwydd Iesu Grist.
24
Gras fyddo gyda phawb sy'n caru ein Harglwydd Iesu Grist chariad anfarwol!
← Chapter 5
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
All chapters:
1
2
3
4
5
6