bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Esther 4
Esther 4
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 5 →
1
Pan glywodd Mordecai am bopeth a ddigwyddodd, rhwygodd ei ddillad a gwisgo sachliain a lludw, a mynd allan i ganol y ddinas a gweiddi'n groch a chwerw.
2
Daeth i ymyl porth y brenin, oherwydd ni chi neb oedd yn gwisgo sachliain fynd i mewn i'r porth.
3
Ym mhob talaith lle y cyrhaeddodd gair a gorchymyn y brenin, yr oedd galar mawr ymysg yr Iddewon, ac yr oeddent yn ymprydio, yn wylo ac yn llefain; a gorweddodd llawer ohonynt mewn sachliain a lludw.
4
Pan ddaeth morynion ac eunuchiaid y Frenhines Esther a dweud wrthi, yr oedd yn ofidus iawn. Anfonodd ddillad i Mordecai eu gwisgo yn lle'r sachliain oedd amdano, ond gwrthododd ef hwy.
5
Yna galwodd Esther ar Hathach, un o eunuchiaid y brenin a ddewiswyd i weini arni, a'i orchymyn i fynd at Mordecai, i gael gwybod beth oedd ystyr hyn a pham y digwyddodd.
6
Aeth Hathach allan at Mordecai i sgwr y ddinas o flaen porth y brenin,
7
a dywedodd Mordecai wrtho am y cwbl a ddigwyddodd iddo, ac am y swm o arian yr addawodd Haman ei dalu i drysorfa'r brenin er mwyn difa'r Iddewon.
8
Rhoddodd iddo hefyd gopi o'r wu375?s a gyhoeddwyd yn Susan, yn gorchymyn eu dinistrio, er mwyn iddo yntau ei dangos a'i hegluro i Esther, a dweud wrthi am fynd at y brenin i ymbil ag ef ac erfyn arno dros ei phobl.
9
Aeth Hathach a dweud wrth Esther yr hyn a ddywedodd Mordecai,
10
a rhoddodd hithau iddo'r neges hon i Mordecai,
11
"Y mae holl weision y brenin a phobl ei daleithiau yn gwybod nad oes ond un ddedfryd yn aros unrhyw u373?r neu wraig sy'n mynd i'r cyntedd mewnol at y brenin heb wahoddiad, sef marwolaeth; ni chaiff fyw oni bai i'r brenin estyn ei deyrnwialen aur iddo. Nid wyf fi wedi fy ngalw at y brenin ers deg diwrnod ar hugain bellach."
12
Pan glywodd Mordecai neges Esther,
13
dywedodd wrthynt am ei hateb fel hyn, "Paid meddwl y cei di yn unig o'r holl Iddewon dy arbed, am dy fod yn byw yn nhu375?'r brenin.
14
Os byddi'n gwrthod siarad yn awr, daw ymwared a chymorth i'r Iddewon o le arall, ond byddi di a thu375? dy dad yn trengi. Pwy a u373?yr nad ar gyfer y fath amser hwn y daethost i'r frenhiniaeth?"
15
Dywedodd Esther wrthynt am roi'r ateb hwn i Mordecai:
16
"Dos i gasglu ynghyd yr holl Iddewon sy'n byw yn Susan, ac ymprydiwch drosof; peidiwch bwyta nac yfed, ddydd na nos, am dridiau, ac fe wnaf finnau a'm morynion yr un fath. Yna af at y brenin, er fy mod yn torri'r gyfraith; ac os trengaf, mi drengaf."
17
Aeth Mordecai ymaith a gwneud popeth a orchmynnodd Esther iddo.
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 5 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10