bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Esther 6
Esther 6
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 5
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 7 →
1
Y noson honno yr oedd y brenin yn methu cysgu, a gorchmynnodd iddynt ddod llyfr y cofiadur, sef y cronicl, ac fe'i darllenwyd iddo.
2
Ynddo cofnodwyd yr hyn a ddywedodd Mordecai am Bigthana a Theres, dau eunuch y brenin oedd yn gofalu am y porth ac oedd wedi cynllwyn i ymosod ar y brenin.
3
Dywedodd y brenin, "Pa glod ac anrhydedd a gafodd Mordecai am hyn?" Atebodd y llanciau oedd yn gweini ar y brenin nad oedd wedi derbyn dim.
4
Gofynnodd y brenin, "Pwy sydd yn y cyntedd?" Yr oedd Haman newydd ddod i gyntedd allanol tu375?'r brenin i ddweud wrtho am grogi Mordecai ar y crocbren yr oedd wedi ei baratoi ar ei gyfer.
5
Dywedodd gweision y brenin wrtho, "Haman sy'n sefyll yn y cyntedd." a galwodd y brenin ar Haman i ddod i mewn.
6
Daeth Haman ymlaen, ac meddai'r brenin wrtho, "Beth ddylid ei wneud i'r dyn y mae'r brenin yn dymuno'i anrhydeddu?" Ac meddai Haman wrtho'i hun, "Pwy fyddai'r brenin yn dymuno'i anrhydeddu yn fwy na mi?"
7
Dywedodd wrth y brenin, "I'r dyn y mae'r brenin yn dymuno'i anrhydeddu,
8
dylid dod gwisg frenhinol a wisgir gan y brenin, a cheffyl y marchoga'r brenin arno, un y mae arfbais y brenin ar ei dalcen.
9
Rhodder y wisg a'r ceffyl i un o dywysogion pwysicaf y brenin, a gwisged yntau'r dyn y mae'r brenin yn dymuno'i anrhydeddu, a'i arwain trwy sgwr y ddinas ar gefn y ceffyl, a chyhoeddi o'i flaen fel hyn: 'Dyma sy'n digwydd i'r dyn y mae'r brenin yn dymuno'i anrhydeddu.'"
10
Yna dywedodd y brenin wrth Haman, "Dos ar frys i gael y wisg a'r ceffyl fel y dywedaist, a gwna hyn i Mordecai yr Iddew, sy'n eistedd ym mhorth y brenin. Gofala wneud popeth a ddywedaist."
11
Felly cymerodd Haman y wisg a'r ceffyl; gwisgodd Mordecai a'i arwain ar gefn y ceffyl trwy sgwr y ddinas, a chyhoeddi o'i flaen: "Dyma sy'n digwydd i'r dyn y mae'r brenin yn dymuno'i anrhydeddu."
12
Yna dychwelodd Mordecai i borth y brenin, ond brysiodd Haman adref yn drist, gorchudd am ei ben.
13
Dywedodd wrth ei wraig Seres a'i holl gyfeillion am y cyfan a ddigwyddodd iddo. Ac meddai ei wu375?r doeth a'i wraig Seres wrtho, "Os yw Mordecai, yr wyt yn dechrau cwympo o'i flaen, yn Iddew, ni orchfygi di mohono; ond yr wyt ti'n sicr o gael dy drechu ganddo ef."
14
Tra oeddent yn siarad ag ef, daeth eunuchiaid y brenin a mynd Haman ar frys i'r wledd a baratdd Esther.
← Chapter 5
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 7 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10