bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Galatians 4
Galatians 4
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 5 →
1
Dyma yr wyf yn ei olygu: cyhyd ag y mae'r etifedd dan oed, nid oes dim gwahaniaeth rhyngddo a chaethwas, er ei fod yn berchennog ar y stad i gyd.
2
Y mae dan geidwaid a goruchwylwyr hyd y dyddiad a benodwyd gan ei dad.
3
Felly ninnau, pan oeddem dan oed, yr oeddem wedi ein caethiwo dan ysbrydion elfennig y cyfanfyd.
4
Ond pan ddaeth cyflawniad yr amser, anfonodd Duw ei Fab, wedi ei eni o wraig, wedi ei eni dan y Gyfraith,
5
i brynu rhyddid i'r rhai oedd dan y Gyfraith, er mwyn i ni gael braint mabwysiad.
6
A chan eich bod yn blant, anfonodd Duw Ysbryd ei Fab i'n calonnau, yn llefain, "Abba! Dad!"
7
Felly, nid caethwas wyt ti bellach, ond plentyn; ac os plentyn, yna etifedd, trwy weithred Duw.
8
Gynt, yn wir, a chwithau heb adnabod Duw, caethweision oeddech i fodau nad ydynt o ran eu natur yn dduwiau.
9
Ond yn awr, a chwithau wedi adnabod Duw, neu yn hytrach, wedi eich adnabod gan Dduw, sut y gallwch droi yn l at yr ysbrydion elfennig llesg a thlawd, a mynnu mynd yn gaethweision iddynt hwy unwaith eto?
10
Cadw dyddiau, a misoedd, a thymhorau, a blynyddoedd, yr ydych.
11
Y mae arnaf ofn mai yn ofer yr wyf wedi llafurio ar eich rhan.
12
Rwy'n ymbil arnoch, gyfeillion, byddwch fel yr wyf fi, oherwydd fe fm i, yn wir, fel yr oeddech chwi. Ni wnaethoch ddim cam mi.
13
Fel y gwyddoch, ar achlysur gwendid corfforol y pregethais yr Efengyl i chwi y tro cyntaf;
14
ac er i gyflwr fy nghorff fod yn demtasiwn i chwi, ni fuoch na dibris na dirmygus ohonof, ond fy nerbyn a wnaethoch fel angel Duw, fel Crist Iesu ei hun.
15
Ble'r aeth eich llawenydd? Oherwydd gallaf dystio amdanoch, y buasech wedi tynnu'ch llygaid allan a'u rhoi i mi, petasai hynny'n bosibl.
16
A wyf fi, felly, wedi mynd yn elyn ichwi, am imi ddweud y gwir wrthych?
17
Y mae yna bobl sy'n rhoi sylw mawr ichwi, ond nid er eich lles; ceisio eich cau chwi allan y maent, er mwyn i chwi roi sylw iddynt hwy.
18
Peth da bob amser yw ichwi gael sylw, pan fydd hynny er lles, ac nid yn unig pan fyddaf fi'n bresennol gyda chwi.
19
Fy mhlant bach, yr wyf unwaith eto mewn gwewyr esgor arnoch, hyd nes y ceir ffurf Crist ynoch.
20
Byddai'n dda gennyf fod gyda chwi yn awr, a gostegu fy llais, oherwydd yr wyf mewn penbleth yn eich cylch.
21
Dywedwch i mi, chwi sy'n mynnu bod dan gyfraith, oni wrandewch ar y Gyfraith?
22
Y mae'n ysgrifenedig i Abraham gael dau fab, un o'i gaethferch ac un o'i wraig rydd.
23
Ganwyd mab y gaethferch yn l greddfau'r cnawd, ond ganwyd mab y wraig rydd trwy addewid Duw.
24
Alegori yw hyn oll. Y mae'r gwragedd yn cynrychioli dau gyfamod. Y mae un o Fynydd Sinai, yn geni plant i gaethiwed.
25
Hagar yw hon; y mae Hagar yn cynrychioli Mynydd Sinai yn Arabia, ac y mae'n cyfateb i'r Jerwsalem sydd yn awr, oherwydd y mae hi, ynghyd 'i phlant, mewn caethiwed.
26
Ond y mae'r Jerwsalem sydd fry yn rhydd, a hi yw ein mam ni.
27
Oherwydd y mae'n ysgrifenedig: "Llawenha, y wraig ddiffrwyth nad wyt yn dwyn plant; bloeddia ganu, y wraig nad wyt fyth mewn gwewyr esgor; oherwydd y mae plant y wraig ddiymgeledd yn lluosocach na phlant y wraig sydd gu373?r ganddi."
28
Ond yr ydych chwi, gyfeillion, fel Isaac, yn blant addewid Duw.
29
Ond fel yr oedd plentyn y cnawd gynt yn erlid plentyn yr Ysbryd, felly y mae yn awr hefyd.
30
Ond beth y mae'r Ysgrythur yn ei ddweud? "Gyrr allan y gaethferch a'i mab, oherwydd ni chaiff mab y gaethferch fyth gydetifeddu mab y wraig rydd."
31
Gan hynny, gyfeillion, nid plant i'r gaethferch ydym ni, ond plant i'r wraig rydd.
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 5 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6