bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Galatians 5
Galatians 5
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 6 →
1
I ryddid y rhyddhaodd Crist ni. Safwch yn gadarn, felly, a pheidiwch phlygu eto i iau caethiwed.
2
Dyma fy ngeiriau, i, Paul, wrthych chwi: os derbyniwch enwaediad, ni bydd Crist o ddim budd i chwi.
3
Yr wyf yn tystio unwaith eto wrth bob dyn a enwaedir, ei fod dan rwymedigaeth i gadw'r Gyfraith i gyd.
4
Chwi sy'n ceisio cyfiawnhad trwy gyfraith, y mae eich perthynas Christ wedi ei thorri; yr ydych wedi syrthio oddi wrth ras.
5
Ond yr ydym ni, yn yr Ysbryd, trwy ffydd, yn disgwyl am y cyfiawnder yr ydym yn gobeithio amdano.
6
Oherwydd yng Nghrist Iesu nid enwaediad sy'n cyfrif, na dienwaediad, ond ffydd yn gweithredu trwy gariad.
7
Yr oeddech yn rhedeg yn dda. Pwy a'ch rhwystrodd chwi rhag canlyn y gwirionedd?
8
Nid oddi wrth yr hwn sy'n eich galw y daeth y perswd yma.
9
Y mae ychydig surdoes yn suro'r holl does.
10
Yr wyf fi'n gwbl hyderus amdanoch yn yr Arglwydd, na fydd i chwi wyro yn eich barn; ond bydd rhaid i hwnnw sy'n aflonyddu arnoch ddwyn ei gosb, pwy bynnag ydyw.
11
Amdanaf fi, gyfeillion, os wyf yn parhau i bregethu'r enwaediad, pam y parheir i'm herlid? Petai hynny'n wir, byddai tramgwydd y groes wedi ei symud.
12
O na bai eich aflonyddwyr yn eu sbaddu eu hunain hefyd!
13
Fe'ch galwyd chwi, gyfeillion, i ryddid, ond yn unig peidiwch ag arfer eich rhyddid yn gyfle i'r cnawd; yn hytrach trwy gariad byddwch yn weision i'ch gilydd.
14
Oherwydd y mae'r holl Gyfraith wedi ei mynegi'n gyflawn mewn un gair, sef yn y gorchymyn, "Cr dy gymydog fel ti dy hun."
15
Ond os cnoi a darnio'ch gilydd yr ydych, gofalwch na chewch eich difa gan eich gilydd.
16
Dyma yr wyf yn ei olygu: rhodiwch yn yr Ysbryd, ac ni fyddwch fyth yn cyflawni chwantau'r cnawd.
17
Oherwydd y mae chwantau'r cnawd yn erbyn yr Ysbryd, a chwantau'r Ysbryd yn erbyn y cnawd. Y maent yn tynnu'n groes i'w gilydd, fel na allwch wneud yr hyn a fynnwch.
18
Ond os ydych yn cael eich arwain gan yr Ysbryd, nid ydych dan gyfraith.
19
Y mae gweithredoedd y cnawd yn amlwg, sef puteindra, amhurdeb, anlladrwydd,
20
eilunaddoliaeth, dewiniaeth, cweryla, cynnen, eiddigedd, llidio, ymgiprys, rhwygo, ymbleidio,
21
cenfigennu, meddwi, cyfeddach, a phethau tebyg. Yr wyf yn eich rhybuddio, fel y gwneuthum o'r blaen, na chaiff y rhai sy'n gwneud y fath bethau etifeddu teyrnas Dduw.
22
Ond ffrwyth yr Ysbryd yw cariad, llawenydd, tangnefedd, goddefgarwch, caredigrwydd, daioni, ffyddlondeb, addfwynder, hunanddisgyblaeth.
23
Nid oes cyfraith yn erbyn rhinweddau fel y rhain.
24
Y mae pobl Crist Iesu wedi croeshoelio'r cnawd ynghyd 'i nwydau a'i chwantau.
25
Os yw ein bywyd yn yr Ysbryd, ynddo hefyd bydded ein buchedd.
26
Bydded inni ymgadw rhag gwag ymffrost, rhag herio ein gilydd, a rhag cenfigennu wrth ein gilydd.
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 6 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6