bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
James 3
James 3
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 4 →
1
Fy nghyfeillion, peidiwch thyrru i fod yn athrawon, oherwydd fe wyddoch y byddwn ni'r athrawon yn cael ein barnu'n llymach.
2
Oherwydd y mae mynych lithriad yn hanes pawb ohonom. Os gall rhywun ymgadw rhag llithro yn ei ymadrodd, dyma un perffaith, 'r gallu ganddo i ffrwyno ei holl gorff hefyd.
3
Yr ydym yn rhoi'r ffrwyn yng ngenau'r march i'w wneud yn ufudd inni, ac yna gallwn droi ei gorff cyfan.
4
A llongau yr un modd; hyd yn oed os ydynt yn llongau mawr, ac yn cael eu gyrru gan wyntoedd geirwon, gellir eu troi llyw bychan iawn i ba gyfeiriad bynnag y mae'r peilot yn ei ddymuno.
5
Felly hefyd y mae'r tafod; aelod bychan ydyw, ond y mae'n honni pethau mawr. Ystyriwch fel y mae gwreichionen fechan yn gallu rhoi coedwig fawr ar dn.
6
A thn yw'r tafod; byd o anghyfiawnder ydyw, wedi ei osod ymhlith ein haelodau, yn halogi'r corff i gyd, ac yn rhoi holl gylch ein bodolaeth ar dn wrth iddo ef ei hun gael ei roi ar dn gan uffern.
7
Y mae'r hil ddynol yn gallu rheoli pob math o anifeiliaid ac adar, o ymlusgiaid a physgod; yn wir, y mae wedi eu rheoli.
8
Ond nid oes neb sy'n gallu rheoli'r tafod. Drwg diorffwys yw, yn llawn o wenwyn marwol.
9
'r tafod yr ydym yn bendithio'r Arglwydd a'r Tad; 'r tafod hefyd yr ydym yn melltithio'r rhai a luniwyd ar ddelw Duw.
10
o'r un genau y mae bendith a melltith yn dod. Fy nghyfeillion, nid felly y mae pethau i fod.
11
A welir du373?r peraidd a du373?r chwerw yn tarddu o lygad yr un ffynnon?
12
A yw'r pren ffigys, fy nghyfeillion, yn gallu dwyn olifiau, neu'r winwydden ffigys? Nac ydyw, ac ni ddaw du373?r peraidd o ddu373?r hallt chwaith.
13
Pwy sy'n ddoeth a deallus yn eich plith? Gadewch i hwnnw, trwy ei ymarweddiad da, ddangos ei weithredoedd mewn gwyleidd-dra sy'n dod o ddoethineb.
14
Ond os ydych yn coleddu eiddigedd chwerw ac uchelgais hunanol yn eich calon, peidiwch ag ymffrostio a dweud celwydd yn erbyn y gwirionedd.
15
Nid dyma'r ddoethineb sy'n disgyn oddi uchod; peth daearol yw, peth bydol a chythreulig.
16
Oherwydd lle bynnag y mae cenfigen ac uchelgais hunanol, yno hefyd y mae anhrefn a phob gweithred ddrwg.
17
Ond am y ddoethineb sydd oddi uchod, y mae hon yn y lle cyntaf yn bur, ac yna'n heddychol, yn dirion, yn hawdd ymwneud hi, yn llawn o drugaredd a'i ffrwythau daionus, yn ddiragfarn ac yn ddiragrith.
18
Y mae cynhaeaf cyfiawnder yn cael ei hau mewn heddwch i'r rhai sy'n gwneud heddwch.
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 4 →
All chapters:
1
2
3
4
5