bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
James 5
James 5
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
1
Ac yn awr, chwi'r cyfoethogion, wylwch ac udwch o achos y trallodion sydd yn dod arnoch.
2
Y mae eich golud wedi pydru, ac y mae'r gwyfyn wedi difa eich dillad.
3
Y mae eich aur a'ch arian wedi rhydu, a bydd eu rhwd yn dystiolaeth yn eich erbyn, ac yn bwyta eich cnawd fel tn. Casglu cyfoeth a wnaethoch yn y dyddiau olaf.
4
Clywch! Y mae'r cyflogau na thalasoch i'r gweithwyr a fedodd eich meysydd yn gweiddi allan; ac y mae llefain y medelwyr yng nghlustiau Arglwydd y Lluoedd.
5
Buoch yn byw yn foethus a glwth ar y ddaear; buoch yn eich pesgi'ch hunain ar gyfer dydd y lladdfa.
6
Yr ydych wedi condemnio a lladd y cyfiawn, heb iddo yntau eich gwrthsefyll.
7
Byddwch yn amyneddgar, gyfeillion, hyd ddyfodiad yr Arglwydd. Gwelwch fel y mae'r ffermwr yn aros am gynnyrch gwerthfawr y ddaear, yn fawr ei amynedd amdano nes i'r ddaear dderbyn y glaw cynnar a diweddar.
8
Byddwch chwithau hefyd yn amyneddgar, a'ch cadw eich hunain yn gadarn, oherwydd y mae dyfodiad yr Arglwydd wedi dod yn agos.
9
Peidiwch ag achwyn ar eich gilydd, fy nghyfeillion, rhag ichwi gael eich barnu. Gwelwch, y mae'r Barnwr yn sefyll wrth y drws.
10
Ystyriwch, gyfeillion, fel esiampl o rai'n dioddef yn amyneddgar, y proffwydi a lefarodd yn enw'r Arglwydd.
11
Ac yr ydym yn dweud mai gwyn eu byd y rhai a ddaliodd eu tir. Clywsoch am ddyfalbarhad Job, a gwelsoch y diwedd a gafodd ef gan yr Arglwydd; y mae'r Arglwydd mor dosturiol a thrugarog.
12
Ond yn anad dim, fy nghyfeillion, peidiwch thyngu llw wrth y nef, nac wrth y ddaear, nac wrth ddim arall chwaith. I'r gwrthwyneb, bydded eich "ie" yn "ie" yn unig, a'ch "nage" yn "nage" yn unig, rhag ichwi syrthio dan farn.
13
A oes rhywun yn eich plith mewn adfyd? Dylai weddo. A oes rhywun yn llawen? Dylai ganu mawl.
14
A oes rhywun yn glaf yn eich plith? Galwed ato henuriaid yr eglwys, i weddo trosto a'i eneinio ag olew yn enw yr Arglwydd.
15
Bydd gweddi a offrymir mewn ffydd yn iachu y sawl sy'n glaf, a bydd yr Arglwydd yn ei godi ar ei draed; ac os yw wedi pechu, fe gaiff faddeuant.
16
Felly, cyffeswch eich pechodau i'ch gilydd, a gweddwch dros eich gilydd, er mwyn ichwi gael iachd. Peth grymus iawn ac effeithiol yw gweddi y cyfiawn.
17
Yr oedd Elias yn ddyn o'r un anian ninnau, ac fe weddodd ef yn daer am iddi beidio glawio; ac ni lawiodd ar y ddaear am dair blynedd a chwe mis.
18
Yna gweddodd eilwaith, a dyma'r nefoedd yn arllwys ei glaw, a'r ddaear yn dwyn ei ffrwyth.
19
Fy nghyfeillion, os digwydd i un ohonoch wyro oddi wrth y gwirionedd, ac i un arall ei droi'n l,
20
boed iddo wybod hyn: bydd y sawl a drodd y pechadur o gyfeiliorni ei ffordd yn achub ei enaid rhag angau, ac yn dileu lliaws o bechodau.
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
All chapters:
1
2
3
4
5