bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Malachi 1
Malachi 1
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 2 →
1
Gair yr ARGLWYDD i Israel trwy Malachi.
2
"Rwy'n eich caru," medd yr ARGLWYDD, a dywedwch chwithau, "Ym mha ffordd yr wyt yn ein caru?" "Onid yw Esau'n frawd i Jacob?" medd yr ARGLWYDD.
3
"Yr wyf yn caru Jacob, ond yn casu Esau; gwneuthum ei fynyddoedd yn ddiffeithwch a'i etifeddiaeth yn gartref i siacal yr anialwch."
4
Os dywed Edom, "Maluriwyd ni, ond adeiladwn ein hadfeilion eto," fe ddywed ARGLWYDD y Lluoedd fel hyn: "Os adeiladant, fe dynnaf i lawr, ac fe'u gelwir yn diriogaeth drygioni ac yn bobl y digiodd yr ARGLWYDD wrthynt am byth."
5
Cewch weld hyn 'ch llygaid eich hunain a dweud, "Y mae'r ARGLWYDD yn fawr hyd yn oed y tu allan i Israel."
6
"Y mae mab yn anrhydeddu ei dad, a gwas ei feistr. Os wyf fi'n dad, ple mae f'anrhydedd? Os wyf yn feistr, ple mae fy mharch?" medd ARGLWYDD y Lluoedd wrthych chwi'r offeiriaid, sy'n dirmygu ei enw. A dywedwch, "Sut y bu inni ddirmygu dy enw?"
7
"Wrth offrymu bwyd halogedig ar fy allor." A dywedwch, "Sut y bu inni ei halogi?" "Wrth feddwl y gellir dirmygu bwrdd yr ARGLWYDD,
8
a thybio, pan fyddwch yn offrymu anifeiliaid dall yn aberth, nad yw hynny'n ddrwg, a phan fyddwch yn offrymu rhai cloff neu glaf, nad yw hynny'n ddrwg. Pe dygech hyn i lywodraethwr y wlad, a fyddai ef yn fodlon ac yn dangos ffafr atoch?" medd ARGLWYDD y Lluoedd.
9
"Yn awr, ceisiwch ffafr Duw, er mwyn iddo drugarhau wrthym; a'r fath rodd gennych, a ddengys ef ffafr atoch?" medd ARGLWYDD y Lluoedd.
10
"O na fyddai rhywun o'ch plith yn cloi'r drysau, rhag i chwi aberthu'n ofer ar fy allor! Nid wyf yn fodlon o gwbl arnoch," medd ARGLWYDD y Lluoedd, "ac ni dderbyniaf offrwm gennych.
11
Oherwydd y mae f'enw yn fawr ymysg y cenhedloedd o'r dwyrain i'r gorllewin, ac ym mhob man offrymir arogldarth ac offrwm pur i'm henw; oherwydd mawr yw f'enw ymysg y cenhedloedd," medd ARGLWYDD y Lluoedd.
12
"Ond yr ydych chwi yn ei halogi wrth feddwl y gallwch ddifwyno bwrdd yr ARGLWYDD bwyd gwrthodedig.
13
Wrth ei arogli, fe ddywedwch, 'Mor atgas yw!'" medd ARGLWYDD y Lluoedd. "Os dygwch anifeiliaid anafus, cloff neu glaf, a'u cyflwyno'n offrwm, a dderbyniaf hwy gennych?" medd yr ARGLWYDD.
14
"Melltith ar y twyllwr sy'n addunedu hwrdd o'i braidd, ond sy'n aberthu i'r Arglwydd un nam arno; oherwydd brenin mawr wyf fi," medd ARGLWYDD y Lluoedd, "a'm henw'n ofnadwy ymhlith y cenhedloedd."
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 2 →
All chapters:
1
2
3
4