bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Malachi 3
Malachi 3
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 4 →
1
"Wele fi'n anfon fy nghennad i baratoi fy ffordd o'm blaen; ac yn sydyn fe ddaw'r Arglwydd yr ydych yn ei geisio i mewn i'w deml; y mae cennad y cyfamod yr ydych yn hoff ohono yn dod," medd ARGLWYDD y Lluoedd.
2
Pwy a all ddal dydd ei ddyfodiad, a phwy a saif pan ymddengys? Y mae fel tn coethydd ac fel sebon golchydd.
3
Fe eistedd i lawr fel un yn coethi a phuro arian, ac fe bura feibion Lefi a'u coethi fel aur ac arian, er mwyn iddynt fod yn addas i ddwyn offrymau i'r ARGLWYDD.
4
Yna bydd offrwm Jwda a Jerwsalem yn hyfrydwch i'r ARGLWYDD, fel yn y dyddiau gynt a'r blynyddoedd a fu.
5
"Yna nesf atoch i farn, yn dyst parod yn erbyn dewiniaid a godinebwyr; yn erbyn y rhai sy'n tyngu'n gelwyddog; yn erbyn y rhai sy'n gorthrymu'r gwas cyflog, y weddw a'r amddifad; yn erbyn y rhai sy'n gwthio'r estron o'r neilltu, ac nad ydynt yn fy ofni i," medd ARGLWYDD y Lluoedd.
6
"Oherwydd nid wyf fi, yr ARGLWYDD, yn newid, ac nid ydych chwithau'n peidio bod yn blant Jacob.
7
O ddyddiau eich hynafiaid, troesoch oddi wrth fy neddfau a pheidio 'u cadw. Dychwelwch ataf fi, a dychwelaf finnau atoch chwi," medd ARGLWYDD y Lluoedd. "A dywedwch, 'Sut y dychwelwn?'
8
A ysbeilia rhywun Dduw? Eto yr ydych chwi yn fy ysbeilio i. A dywedwch, 'Sut yr ydym yn dy ysbeilio?' Yn eich degymau a'ch cyfraniadau.
9
Fe'ch melltithiwyd melltith am eich bod yn fy ysbeilio i, y genedl gyfan ohonoch.
10
Dygwch y degwm llawn i'r trysordy, fel y bo bwyd yn fy nhu375?. Profwch fi yn hyn," medd ARGLWYDD y Lluoedd, "nes imi agor i chwi ffenestri'r nefoedd a thywallt arnoch fendith yn helaeth.
11
Ceryddaf hefyd y locust, rhag iddo ddifetha cynnyrch eich tir a gwneud eich gwinwydden yn ddiffrwyth," medd ARGLWYDD y Lluoedd.
12
"Yna bydd yr holl genhedloedd yn dweud, 'Gwyn eich byd', oherwydd byddwch yn wlad o hyfrydwch," medd ARGLWYDD y Lluoedd.
13
"Bu eich geiriau'n galed yn f'erbyn," medd yr ARGLWYDD, "a dywedwch, 'Beth a ddywedasom yn dy erbyn?'
14
Dywedasoch, 'Ofer yw gwasanaethu Duw. Pa ennill yw cadw ei ddeddfau neu rodio'n wynepdrist gerbron ARGLWYDD y Lluoedd?
15
Yn awr, yr ydym ni'n ystyried mai'r trahaus sy'n hapus, ac mai'r rhai sy'n gwneud drwg sy'n llwyddo, ac yn dianc hefyd er iddynt herio Duw.'"
16
Yna, fel yr oedd y rhai a ofnai Dduw yn siarad 'i gilydd, sylwodd Duw a gwrando, ac ysgrifennwyd ger ei fron gofrestr o'r rhai a oedd yn ofni'r ARGLWYDD ac yn meddwl am ei enw.
17
"Eiddof fi fyddant," medd ARGLWYDD y Lluoedd, "fy eiddo arbennig ar y dydd pan weithredaf; ac arbedaf hwy fel y mae dyn yn arbed ei fab, a'i gwasanaetha.
18
Yna, unwaith eto, byddwch yn gweld rhagor rhwng y cyfiawn a'r drygionus, rhwng yr un sy'n gwasanaethu Duw a'r un nad yw."
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 4 →
All chapters:
1
2
3
4