bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Ruth 1
Ruth 1
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 2 →
1
Yn ystod y cyfnod pan oedd y barnwyr yn llywodraethu, bu newyn yn y wlad, ac aeth dyn o Fethlehem Jwda gyda'i wraig a'i ddau fab i fyw dros dro yng ngwlad Moab.
2
Elimelech oedd enw'r dyn, Naomi oedd enw ei wraig, a Mahlon a Chilion oedd enwau'r ddau fab. Effrateaid o Fethlehem Jwda oeddent, ac aethant i wlad Moab ac aros yno.
3
Ond bu farw Elimelech, gu373?r Naomi, a gadawyd hi'n weddw gyda'i dau fab.
4
Priododd y ddau merched o Moab; Orpa oedd enw'r naill a Ruth oedd enw'r llall. Wedi iddynt fod yno tua deng mlynedd,
5
bu farw Mahlon a Chilion ill dau; a gadawyd y wraig yn amddifad o'i dau blentyn yn ogystal ag o'i gu373?r.
6
Penderfynodd hi a'i dwy ferch-yng-nghyfraith ddychwelyd o wlad Moab, oherwydd iddi glywed yno i'r ARGLWYDD ymweld 'i bobl a rhoi bwyd iddynt.
7
Gadawodd hi a'i dwy ferch-yng-nghyfraith y man lle'r oeddent, a chychwyn yn l am wlad Jwda.
8
Ac meddai Naomi wrth ei dwy ferch-yng-nghyfraith, "Ewch yn l adref, bob un at ei mam, y ddwy ohonoch; a bydded yr ARGLWYDD mor garedig wrthych chwi ag y buoch chwi wrth y rhai a fu farw ac wrthyf finnau,
9
a rhoi i'r ddwy ohonoch orffwysfa mewn cartref gyda gu373?r." Yna fe'u cusanodd, a dechreuodd y ddwy wylo'n uchel,
10
a dweud wrthi, "Ond yr ydym ni am ddychwelyd gyda thi at dy bobl."
11
Dywedodd Naomi, "Ewch adref, fy merched. Pam y dewch gyda mi? A oes gennyf fi ragor o feibion yn fy nghroth, iddynt ddod yn wu375?r i chwi?
12
Ewch yn l, fy merched, oherwydd yr wyf fi'n rhy hen i gael gu373?r. Pe bawn i'n dweud bod gennyf obaith cael gu373?r heno, ac yna geni plant,
13
a fyddech chwi'n disgwyl nes iddynt dyfu? A fyddech yn ymgadw rhag priodi? Na, fy merched; y mae'n llawer chwerwach i mi nag i chwi am fod llaw yr ARGLWYDD yn f'erbyn i."
14
Wylodd y ddwy yn uchel eto; yna ffarweliodd Orpa 'i mam-yng-nghyfraith, ond glynodd Ruth wrthi.
15
A dywedodd Naomi, "Edrych, y mae dy chwaer-yng-nghyfraith wedi mynd yn l at ei phobl a'i duw; dychwel dithau ar ei hl."
16
Ond meddai Ruth, "Paid 'm hannog i'th adael, na throi'n l oddi wrthyt, oherwydd i ble bynnag yr ei di, fe af finnau; ac ym mhle bynnag y byddi di'n aros, fe arhosaf finnau; dy bobl di fydd fy mhobl i, a'th Dduw di fy Nuw innau.
17
Lle y byddi di farw, y byddaf finnau farw ac yno y'm cleddir. Fel hyn y gwnelo'r ARGLWYDD i mi, a rhagor, os bydd unrhyw beth ond angau yn ein gwahanu ni."
18
Gwelodd Naomi ei bod yn benderfynol o fynd gyda hi, ac fe beidiodd 'i hannog rhagor.
19
Aeth y ddwy ymlaen nes dod i Fethlehem; ac wedi iddynt gyrraedd, bu cyffro trwy'r holl dref o'u plegid, a'r merched yn gofyn, "Ai Naomi yw hon?"
20
Dywedodd hithau wrthynt, "Peidiwch 'm galw'n Naomi, galwch fi'n Mara; oherwydd bu'r Hollalluog yn chwerw iawn wrthyf.
21
Yr oeddwn yn llawn wrth fynd allan, ond daeth yr ARGLWYDD mi'n l yn wag. Pam y galwch fi'n Naomi, a'r ARGLWYDD wedi tystio i'm herbyn, a'r Hollalluog wedi dod drwg arnaf?"
22
Fel hyn y dychwelodd Naomi o wlad Moab, a'i merch-yng-nghyfraith, Ruth y Foabes, gyda hi. Daethant i Fethlehem yn nechrau'r cynhaeaf haidd.
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 2 →
All chapters:
1
2
3
4