bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Ruth 2
Ruth 2
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 3 →
1
Yr oedd gan Naomi berthynas i'w gu373?r, dyn cefnog o'r enw Boas o dylwyth Elimelech.
2
Dywedodd Ruth y Foabes wrth Naomi, "Gad imi fynd i'r caeau u375?d i loffa ar l pwy bynnag fydd yn caniatu imi." Dywedodd Naomi wrthi, "Ie, dos, fy merch."
3
Felly fe aeth i'r caeau i loffa ar l y medelwyr, a digwyddodd iddi ddewis y rhandir oedd yn perthyn i Boas, y dyn oedd o dylwyth Elimelech.
4
A dyna Boas ei hun yn cyrraedd o Fethlehem ac yn cyfarch y medelwyr, "Yr ARGLWYDD fyddo gyda chwi," a hwythau'n ateb, "Bendithied yr ARGLWYDD dithau."
5
Yna gofynnodd Boas i'w was oedd yn gofalu am y medelwyr, "Geneth pwy yw hon?"
6
Atebodd y gwas, "Geneth o Moab ydyw; hi a ddaeth yn l gyda Naomi o wlad Moab.
7
Gofynnodd am ganiatd i loffa a hel rhwng yr ysgubau ar l y medelwyr. Fe ddaeth, ac y mae wedi bod ar ei thraed o'r bore bach hyd yn awr, heb orffwys o gwbl."
8
Dywedodd Boas wrth Ruth, "Gwrando, fy merch, paid mynd i loffa i faes arall na symud oddi yma, ond glu375?n wrth fy llancesau i.
9
Cadw dy lygaid ar y maes y maent yn ei fedi, a dilyn hwy. Onid wyf fi wedi gorchymyn i'r gweision beidio ag ymyrryd thi? Os bydd syched arnat, dos i yfed o'r llestri a lanwodd y gweision."
10
Moesymgrymodd hithau hyd y llawr a dweud wrtho, "Pam yr wyf yn cael y fath garedigrwydd gennyt fel dy fod yn cymryd sylw ohonof fi, a minnau'n estrones?"
11
Atebodd Boas hi a dweud, "Cefais wybod am y cwbl yr wyt ti wedi ei wneud i'th fam-yng-nghyfraith ar l marw dy u373?r, ac fel y gadewaist dy dad a'th fam a'th wlad enedigol, a dod at bobl nad oeddit yn eu hadnabod o'r blaen.
12
Bydded i'r ARGLWYDD dy wobrwyo am dy weithred, a bydded iti gael dy dalu'n llawn gan yr ARGLWYDD, Duw Israel, y daethost i geisio nodded dan ei adain."
13
Dywedodd hi, "Yr wyt yn garedig iawn, f'arglwydd, oherwydd yr wyt wedi cysuro a chalonogi dy forwyn, er nad wyf yn un o'th forynion di."
14
Dywedodd Boas wrthi, adeg bwyd, "Tyrd yma a bwyta o'r bara a gwlychu dy damaid yn y finegr." Wedi iddi eistedd wrth ochr y medelwyr, estynnodd yntau iddi u375?d wedi ei grasu, a bwytaodd ei gwala a gadael gweddill.
15
Yna, pan gododd hi i loffa, gorchmynnodd Boas i'w weision, "Gadewch iddi loffa hyd yn oed ymysg yr ysgubau, a pheidiwch 'i dwrdio;
16
yr wyf am i chwi hyd yn oed dynnu peth allan o'r dyrneidiau a'i adael iddi i'w loffa; a pheidiwch 'i cheryddu."
17
Bu'n lloffa yn y maes hyd yr hwyr, a phan ddyrnodd yr hyn yr oedd wedi ei loffa, cafodd tuag effa o haidd.
18
Fe'i cymerodd gyda hi i'r dref, a dangos i'w mam-yng-nghyfraith faint yr oedd wedi ei loffa; hefyd fe dynnodd allan y bwyd a gadwodd ar l cael digon, a'i roi iddi.
19
Gofynnodd ei mam-yng-nghyfraith iddi, "Ple buost ti'n lloffa ac yn llafurio heddiw? Bendith ar y sawl a gymerodd sylw ohonot." Eglurodd hithau i'w mam-yng-nghyfraith gyda phwy y bu'n llafurio, a dweud, "Boas oedd enw'r dyn y bm yn llafurio gydag ef heddiw."
20
Ac meddai Naomi wrth ei merch-yng-nghyfraith, "Bendith yr ARGLWYDD arno! Nid yw'r ARGLWYDD wedi atal ei drugaredd at y byw na'r meirw." Ac ychwanegodd Naomi, "Y mae'r dyn yn perthyn inni, ac yn un o'n perthnasau agosaf."
21
Yna dywedodd Ruth y Foabes, "Fe ddywedodd wrthyf hefyd am lynu wrth ei weision ef nes iddynt orffen ei gynhaeaf."
22
Ac meddai Naomi wrth ei merch-yng-nghyfraith Ruth, "Y mae'n well iti, fy merch, fynd allan gyda'i lancesau ef, rhag i rywrai ymosod arnat mewn rhyw faes arall."
23
A glynodd hithau wrth lancesau Boas i loffa hyd ddiwedd y cynhaeaf haidd a'r cynhaeaf gwenith, ond yr oedd yn byw gyda'i mam-yng-nghyfraith.
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 3 →
All chapters:
1
2
3
4