bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
1 John 1
1 John 1
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 2 →
1
Yr hyn oedd o’r dechreuad, yr hyn a glywsom, yr hyn a welsom â’n llygaid, yr hyn yr edrychasom arno, ac ein dwylaw a gyffyrddasant ag ef, am Air y bywyd;
2
(ac y bywyd a amlygwyd, a gwelsom, a thystiolaethu yr ydym ac yn mynegi i chwi y bywyd tragywyddol, yr Hwn oedd gyda’r Tad ac a amlygwyd i ni;)
3
yr hyn a welsom ac a glywsom yr ydym yn ei fynegi hefyd i chwi, fel y byddoch chwi hefyd a chennych gymdeithas gyda ni; ac ein cymdeithas ni, gyda’r Tad a chyda’i Fab Ef Iesu Grist y mae.
4
A’r pethau hyn yr ydym ni yn eu hysgrifenu fel y bo eich llawenydd wedi ei gyflawni.
5
A hon yw’r genadwri a glywsom ganddo Ef, ac yr ydym yn ei mynegi i chwi, sef, Duw, goleuni yw, a thywyllwch Ynddo Ef nid oes mo’no.
6
Os dywedwn fod cymdeithas genym ag Ef, ac yn y tywyllwch y rhodiwn, celwyddu yr ydym, ac nid ydym yn gwneuthur y gwirionedd;
7
ond os yn y goleuni y rhodiwn, fel y mae Efe yn y goleuni, cymdeithas sydd genym â’n gilydd, a gwaed Iesu, Ei Fab Ef, sydd yn ein glanhau oddiwrth bob pechod.
8
Os dywedwn nad oes pechod genym, ni ein hunain a arweiniwn ar gyfeiliorn, a’r gwirionedd nid yw ynom.
9
Os cyfaddefwn ein pechodau, ffyddlawn yw Efe a chyfiawn, i faddeu i ni ein pechodau a’n glanhau oddiwrth bob anghyfiawnder.
10
Os dywedwn, Ni phechasom, celwyddwr y’i gwnawn Ef, ac Ei air nid yw ynom.
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 2 →
All chapters:
1
2
3
4
5