bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
1 John 3
1 John 3
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 4 →
1
Gwelwch y fath gariad a roddwyd i ni gan y Tad, mai’r Plant i Dduw y’n gelwir; ac yr ydym. Oblegid hyn y byd ni’n hedwyn, gan nad adnabu Ef.
2
Anwylyd, yn awr, plant i Dduw ydym; ac nid amlygwyd etto pa beth a fyddwn: gwyddom ped amlyger, cyffelyb Iddo y byddwn, y gwelwn Ef fel y mae.
3
A phob un y sydd a chanddo y gobaith hwn Ynddo Ef, sy’n puro ei hun fel y mae Yntau yn bur.
4
Pob un y sy’n gwneuthur pechod, anghyfraith hefyd y mae efe yn ei wneud; a phechod yw anghyfraith.
5
A gwyddoch y bu Iddo Ef Ei amlygu, fel y dygai ymaith bechodau; a phechod Ynddo Ef nid oes.
6
Pob un y sy’n aros Ynddo Ef, nid yw yn pechu; pob un y sy’n pechu, ni welodd Ef, ac nid yw yn Ei adnabod Ef chwaith.
7
Plant bychain, na fydded i neb eich arwain ar gyfeiliorn. Yr hwn sy’n gwneuthur cyfiawnder, cyfiawn yw, fel y mae Efe yn gyfiawn.
8
Yr hwn sy’n gwneuthur pechod, o ddiafol y mae, canys o’r dechreuad y mae diafol yn pechu. Er mwyn hyn yr amlygwyd Mab Duw, fel y dattodai weithredoedd diafol.
9
Pob un o’r a genhedlwyd o Dduw, pechod nid yw yn ei wneud, canys Ei had Ef sydd ynddo ef yn aros; ac ni all bechu gan mai o Dduw y’i cenhedlwyd.
10
Yn hyn amlwg yw plant Duw a phlant diafol: pob un nad yw yn gwneuthur cyfiawnder, nid yw o Dduw, ac yr hwn nad yw yn caru ei frawd.
11
A hon yw’r gennadwri a glywsoch o’r dechreuad, Garu o honom ein gilydd:
12
nid fel yr oedd Cain o’r un drwg, ac a laddodd ei frawd. A phaham y lladdodd ef? O herwydd i’w weithredoedd ef fod yn ddrwg, a’r eiddo ei frawd yn gyfiawn.
13
Na ryfeddwch, frodyr, os eich casau y mae’r byd.
14
Nyni a wyddom yr aethom drosodd o farwolaeth i fywyd, o herwydd caru o honom y brodyr. Yr hwn nad yw’n caru, aros ym marwolaeth y mae.
15
Pob un y sy’n casau ei frawd, lleiddiad dyn yw: a gwyddom fod pob lleiddiad dyn heb a chanddo fywyd tragywyddol yn aros ynddo.
16
Yn hyn y mae gwybodaeth am gariad genym, am Iddo Ef ddodi i lawr Ei fywyd drosom ni. A ninnau a ddylem ddodi i lawr ein bywyd dros y brodyr.
17
Ond pwy bynnag sydd a chanddo dda y byd, ac a welo ei frawd mewn eisiau, ac a gauo ei dosturi oddiwrtho, pa fodd y mae cariad Duw yn aros ynddo?
18
Plant bychain, na charwn ar air, nac â’r tafod, eithr mewn gweithred a gwirionedd:
19
wrth hyn y gwybyddwn mai o’r gwirionedd yr ydym, a cher Ei fron Ef y perswadiwn ein calon,
20
o ran pa beth bynnag y’n condemnia ein calon ynddo, canys mwy yw Duw na’n calon, a gwybod pob peth y mae.
21
Anwylyd, os ein calon na’n condemnia, hyder sydd genym tuag at Dduw;
22
a pha beth bynnag a ofynom, ei dderbyn oddiwrtho Ef yr ydym, gan mai Ei orchymynion a gadwn, a’r pethau yn rhyngu bodd yn Ei olwg yr ydym yn eu gwneuthur.
23
A hwn yw Ei orchymyn; Gredu o honom yn enw Ei Fab Iesu Grist, a charu ein gilydd fel y rhoes Efe orchymyn i ni.
24
A’r hwn sy’n cadw Ei orchymynion, Ynddo Ef y mae yn aros, ac Yntau ynddo yntau; ac wrth hyn y gwyddom mai aros y mae Efe ynom, sef o’r Yspryd, yr Hwn a roddes Efe i ni.
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 4 →
All chapters:
1
2
3
4
5