bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
1 John 2
1 John 2
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 3 →
1
Fy mhlant bychain, y pethau hyn yr wyf yn eu hysgrifenu, fel na phechoch: ac os bydd i neb bechu, Eiriolwr sydd genym gyda’r Tad, Iesu Grist y Cyfiawn;
2
ac Efe, yr iawn yw am ein pechodau; nid am yr eiddom ni yn unig, eithr hefyd am bechodau’r holl fyd.
3
Ac wrth hyn y gwyddom yr adwaenom Ef, os Ei orchymynion a gadwn.
4
Yr hwn sy’n dywedyd, Adwaen Ef, a’i orchymynion na cheidw, celwyddwr yw, ac ynddo y gwirionedd nid ydyw;
5
ond pwy bynnag a gadwo Ei air Ef, mewn gwirionedd ynddo ef y mae cariad Duw wedi ei berffeithio. Wrth hyn y gwyddom mai Ynddo Ef yr ydym.
6
Yr hwn sy’n dywedyd mai Ynddo Ef ei fod yn aros, dyledwr yw, fel y bu Iddo Ef rodio, iddo yntau hefyd rodio felly.
7
Anwylyd, nid gorchymyn newydd yr wyf yn ei ’sgrifenu attoch, eithr gorchymyn hen, yr hwn oedd genych o’r dechreuad: y gorchymyn hen yw’r Gair a glywsoch.
8
Trachefn, gorchymyn newydd yr wyf yn ei ’sgrifenu attoch, yr hwn beth sydd wir Ynddo Ef ac ynoch chwi, canys y tywyllwch sy’n myned heibio, a’r gwir oleuni sydd eisoes yn tywynnu.
9
Yr hwn sy’n dywedyd mai yn y goleuni y mae, ac ei frawd yn gas ganddo, yn y tywyllwch y mae hyd y pryd hwn.
10
Yr hwn sy’n caru ei frawd, yn y goleuni y mae’n aros, a thramgwydd ynddo ef nid oes:
11
ond yr hwn sy’n casau ei frawd, yn y tywyllwch y mae, ac yn y tywyllwch y mae yn rhodio, ac ni ŵyr i ba le y mae yn myned, canys y tywyllwch a ddallodd ei lygaid.
12
Ysgrifenu yr wyf attoch chwi, blant bychain, oblegid y maddeuwyd i chwi eich pechodau er mwyn Ei enw Ef.
13
Ysgrifenu yr wyf attoch chwi, dadau, oblegid adnabod o honoch yr Hwn sydd o’r dechreuad. Ysgrifenu yr wyf attoch chwi, wŷr ieuaingc, oblegid gorchfygu o honoch yr un drwg. Ysgrifenais attoch chwi, blant bychain, oblegid adnabod o honoch y Tad.
14
Ysgrifenais attoch chwi, dadau, oblegid adnabod o honoch yr Hwn sydd o’r dechreuad. Ysgrifenais attoch chwi, wŷr ieuaingc, gan mai cryfion ydych, a Gair Duw yn aros ynoch, ac y gorchfygasoch yr un drwg.
15
Na cherwch y byd, na’r pethau y sydd yn y byd; os yw neb yn caru’r byd, nid yw cariad y Tad ynddo;
16
canys pob peth y sydd yn y byd, chwant y cnawd, a chwant y llygaid, a gwag-ogoniant buchedd, nid yw o’r Tad, eithr o’r byd y mae;
17
a’r byd sy’n myned heibio, ac ei chwant; ond yr hwn sy’n gwneuthur ewyllys Duw, aros y mae yn dragywydd.
18
Plant bychain, y ddiweddaf awr yw; ac fel y clywsoch fod Antigrist yn dyfod, hyd yn oed yn awr, Antigristiau lawer a wnaethpwyd; oddiwrth yr hyn y gwyddom mai’r ddiweddaf awr yw.
19
O’n plith ni yr aethant allan, eithr nid oeddynt o honom; canys pe buasent o honom, arhosasent gyda ni: eithr fel yr amlygid nad ydynt oll o honom ni y bu.
20
A chwi sydd ag enneiniad genych oddiwrth Y Sanctaidd un, a gwyddoch bob peth.
21
Nid ysgrifenais attoch oblegid na wyddoch y Gwirionedd, eithr oblegid gwybod o honoch ef, ac oblegid nad yw neb rhyw gelwydd o’r Gwirionedd.
22
Pwy yw’r celwyddwr oddieithr yr hwn sy’n gwadu nad ydyw Iesu Y Crist? Hwn yw’r Antigrist, yr hwn sy’n gwadu y Tad a’r Mab.
23
Pob un y sy’n gwadu’r Mab, nid yw’r Tad chwaith ganddo: yr hwn sy’n cyffesu’r Mab, y Tad hefyd sydd ganddo.
24
Chwychwi, yr hyn a glywsoch o’r dechreuad, ynoch arhosed. Os ynoch yr erys yr hyn a glywsoch o’r dechreuad, chwychwi hefyd yn y Mab ac yn y Tad a arhoswch.
25
A hwn yw’r addewid yr hwn y bu Iddo Ef ei addaw i ni, sef y bywyd tragywyddol.
26
Y pethau hyn a ’sgrifenais attoch ynghylch y rhai sydd yn eich arwain ar gyfeiliorn.
27
A chwychwi yr enneiniad a dderbyniasoch Ganddo Ef, aros y mae ynoch, ac nid oes genych raid wrth ddysgu o neb chwi: eithr fel y mae Ei enneiniad Ef yn eich dysgu am bob peth, a gwir yw, ac nid yw gelwydd; ac fel y dysgodd chwi, arhoswch Ynddo Ef.
28
Ac, yn awr, blant bychain, arhoswch Ynddo Ef; fel, os amlygir Ef, y bo genym hyder, ac na chywilyddier ni ger Ei fron yn Ei ddyfodiad.
29
Os gwyddoch mai cyfiawn yw Efe, gwyddoch fod pob un hefyd y sy’n gwneuthur cyfiawnder, mai o Hono Ef y’i cenhedlwyd.
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 3 →
All chapters:
1
2
3
4
5