bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
2 Thessalonians 1
2 Thessalonians 1
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 2 →
1
Paul a Silfanus a Thimothëus at eglwys y Thessaloniaid yn Nuw ein Tad a’r Arglwydd Iesu Grist.
2
Gras i chwi a thangnefedd oddiwrth Dduw Dad a’r Arglwydd Iesu Grist.
3
Diolch a ddylem i Dduw yn wastadol am danoch, frodyr, fel addas yw, gan mai mawr-gynnyddu y mae eich ffydd, ac ychwanegu y mae cariad pob un o’r oll o honoch tuag at eich gilydd,
4
fel yr ydym ni ein hunain yn ymffrostio ynoch chwi yn eglwysi Duw o herwydd eich amynedd a ffydd, yn eich holl erlidiau a’r gorthrymderau yr ydych yn eu goddef,
5
yr hyn sydd argoel eglur o gyfiawn farn Duw, fel y’ch cyfrifer yn deilwng o deyrnas Dduw, tros yr hon yr ydych yn dioddef,
6
gan mai cyfiawn yw gyda Duw, dalu i’r rhai sydd yn eich gorthrymmu orthrymder,
7
ac i chwi a orthrymmir ysgafnhad ynghyda ni yn natguddiad yr Arglwydd Iesu o’r nef ynghydag angylion Ei allu,
8
mewn tân fflamllyd, gan roddi dial i’r rhai nad adwaenant Dduw,
9
ac nad ufuddhant i Efengyl ein Harglwydd Iesu, y rhai a dalant y gosp, sef dinystr tragywyddol ymaith oddiwrth wyneb yr Arglwydd,
10
ac oddiwrth ogoniant Ei nerth, pan ddelo i’w ogoneddu yn Ei saint, ac i’w ryfeddu yn yr holl rai a gredasant (canys credwyd ein tystiolaeth i chwi) yn y dydd hwnw.
11
Ac er mwyn hyn, gweddïo hefyd yr ydym yn wastadol drosoch, fel eich cyfrif chwi yn deilwng o’ch galwedigaeth a fo i’n Duw, ac y cyflawno bob boddlonrwydd daioni a gwaith ffydd, gyda gallu;
12
fel y gogonedder enw ein Harglwydd Iesu Grist ynoch, a chwithau Ynddo Ef, yn ol gras ein Duw a’r Arglwydd Iesu.
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 2 →
All chapters:
1
2
3