bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
2 Thessalonians 3
2 Thessalonians 3
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
1
Yn ddiweddaf, gweddiwch, frodyr, trosom, ar i air yr Arglwydd redeg a’i ogoneddu fel gyda chwi,
2
ac ar ein hachub oddiwrth y dynion anhywaith a drwg; canys nid gan bawb y mae ffydd;
3
ond ffyddlawn yw’r Arglwydd, yr Hwn a’ch sicrha, ac a’ch ceidw rhag y drwg.
4
Ac hyder sydd genym yn yr Arglwydd am danoch, mai’r pethau a orchymynwn yr ydych yn eu gwneuthur, ac y’u gwnewch.
5
A’r Arglwydd a gyfarwyddo eich calonnau i gariad Duw ac i amynedd Crist.
6
A gorchymyn i chwi yr ydym, frodyr, yn enw ein Harglwydd Iesu Grist, dynnu o honoch ymaith oddiwrth bob brawd y sy’n rhodio yn afreolus, ac nid yn ol y traddodiad a dderbyniasant genym;
7
canys gwyddoch eich hunain pa fodd y dylech ein hefelychu ni, canys ni fuom afreolus yn eich plith,
8
ac nid yn rhad y bwyttasom fara gan neb; eithr mewn llafur a lludded, gan weithio nos a dydd, fel na phwysem ar neb o honoch,
9
nid gan nad oes genym awdurdod, eithr fel y rhoddem ein hunain yn esiampl i chwi fel yr efelychech ni.
10
Canys hefyd pan oeddym gyda chwi, hyn a orchymynasom i chwi, Os yw neb heb ewyllysio gweithio, na fwyttaed chwaith.
11
Canys clywn am rai yn rhodio yn eich plith yn afreolus, heb weithio dim, eithr yn ofer-weithio;
12
ac i’r cyfryw rai y gorchymynwn, ac y’u hannogwn yn yr Arglwydd Iesu Grist, y bo iddynt, gan weithio gyda llonyddwch, fwytta eu bara eu hunain.
13
A chwychwi, frodyr, na ddiffygiwch mewn gwneuthur yr hyn sydd dda.
14
Ac os rhyw un nad ufuddha i’n gair trwy’r epistol, hwnw nodwch, i beidio ag ymgymmysgu ag ef, fel y cywilyddio;
15
ac nid megis gelyn ystyriwch ef, eithr cynghorwch ef megis brawd.
16
Ac Arglwydd yr heddwch Ei hun a roddo i chwi heddwch yn wastadol ym mhob modd. Yr Arglwydd a fo gyda phawb o honoch.
17
Yr annerch â’m llaw i Paul, yr hyn sydd arwydd ym mhob epistol.
18
Felly yr wyf yn ysgrifenu. Gras ein Harglwydd Iesu Grist fo gyda phawb o honoch.
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
All chapters:
1
2
3