bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
2 Thessalonians 2
2 Thessalonians 2
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 3 →
1
Ac attolygwn i chwi, frodyr, o ran dyfodiad ein Harglwydd Iesu Grist, a’n cyd-gynnulliad ninnau atto Ef,
2
na’ch sigler yn fuan oddiwrth eich meddwl, na’ch cythryflu na chan yspryd, na chan air, na chan epistol megis oddi wrthym, mai agos yw dydd yr Arglwydd.
3
Na fydded i neb eich twyllo chwi mewn un modd; canys heb ddyfod o’r ymadawiad yn gyntaf ni ddaw, nac heb ei ddatguddio o ddyn pechod,
4
mab y golledigaeth, yr hwn sy’n gwrthwynebu, ac yn ymddyrchafu yn erbyn yr oll a elwir yn Dduw,
5
neu a addolir, fel mai yn nheml Dduw y mae efe yn eistedd, gan ddangos ei hun ei fod yn dduw. Oni chofiwch, tra’r oeddwn etto gyda chwi, y pethau hyn a ddywedais wrthych?
6
Ac yn awr, yr hyn sy’n attal a wyddoch, fel y datguddier ef yn ei bryd ei hun.
7
Canys y dirgelwch sydd eisoes yn gweithio, sef dirgelwch anghyfraith; yn unig yr hwn sy’n attal yn awr nes myned ymaith o hono —:
8
ac yna y datguddir yr anghyfraith-ddyn, yr hwn, yr Arglwydd Iesu a’i difetha ag anadl Ei enau, ac a’i diddymma ag amlygiad Ei ddyfodiad:
9
ac y mae ei ddyfodiad ef yn ol gweithrediad Satan, gyda phob gallu ac arwyddion a rhyfeddodau celwyddog,
10
a chyda phob twyll anghyfiawnder i’r rhai sy’n myned ar goll, gan na fu i gariad y gwirionedd ei dderbyn ganddynt fel yr achuber hwynt.
11
Ac o herwydd hyn danfon iddynt y mae Duw weithrediad cam-arwain fel y credont y celwyddog;
12
fel y barner pawb na chredasant y gwirionedd, eithr a foddlonwyd mewn anghyfiawnder.
13
Ond nyni a ddylem ddiolch i Dduw yn wastadol trosoch, frodyr caredig gan yr Arglwydd, o herwydd eich dewis gan Dduw o’r dechreuad i iachawdwriaeth yn sancteiddiad yr Yspryd, a ffydd i’r gwirionedd;
14
i’r hyn y galwodd chwi trwy ein Hefengyl, er meddiannu gogoniant ein Harglwydd Iesu Grist.
15
Gan hyny, ynte, frodyr, sefwch, a deliwch y traddodiadau a ddysgasoch, pa un bynnag ai trwy ymadrodd ai trwy ein hepistol.
16
A’n Harglwydd Iesu Grist Ei hun, a Duw ein Tad, yr Hwn a’n carodd ac a roddes i ni ddiddanwch tragywyddol a gobaith da trwy ras,
17
a ddiddano eich calonnau, ac a’ u sicrhao ym mhob gwaith a gair da.
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 3 →
All chapters:
1
2
3